Allyriadau carbon y Cyngor

Dros nifer o flynyddoedd, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon drwy strategaethau lleihau carbon rhagweithiol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae tua 60% o allyriadau carbon y Cyngor o ffynonellau ynni wedi eu lleihau drwy raglenni rhagweithiol gan gynnwys trosi goleuadau stryd i LED, defnyddio mesurau effeithlonrwydd ynni ar draws ei asedau, ac arwain y ffordd gyda chynlluniau ynni adnewyddadwy fel dal solar a methan.
Mae popeth a wnawn yn cael effaith ar yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo; o losgi tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi i gasglu gwastraff wrth ymyl y ffordd ac ailgylchu. Mae Cyngor Sir y Fflint yn adrodd ei ôl troed carbon i Lywodraeth Cymru fel tunelli o garbon deuocsid cyfwerth (tCO2e) o fewn ei ffiniau sefydliadol a gweithredol. Mae’r cynllun hwn yn ymwneud â gweithrediadau mewnol y Cyngor sef:
- Adeiladau sy’n eiddo i’r Cyngor a sy’n cael eu gweithredu ganddo gan gynnwys swyddfeydd, depos, ysgolion, canolfannau cymunedol, cartrefi gofal, cyfleusterau cyhoeddus a goleuadau stryd. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gwres, trydan a dŵr yn y cyfleusterau hyns.
- Cerbydau fflyd sy’n eiddo i’r Cyngor.
- Teithio ar fusnes i’r gwaith.
- Cymudo gweithwyr.
- Caffael nwyddau a gwasanaethau.
Nid yw’r cwmpas yn cynnwys:
- Eiddo domestig,
- Adeiladau sy’n eiddo i ni sy’n cael eu prydlesu a’u gweithredu gan drydydd partïon.
Er mwyn gwybod ble’r ydym a ble mae angen inni fod, mae angen inni edrych yn gyntaf ar ein ffigurau sylfaenol. Yn 2018/19 llwyddon ni i gasglu’r data a nodir isod. Mae Ffigur 1 isod yn dangos dadansoddiad o allyriadau nwyon tŷ gwydr fesul ffynhonnell allyriadau ar gyfer 2018/19*.
Mae’r Cyngor wedi nodi nodau ym mhob un o’r themâu amcanion allweddol. Mae gan bob un o’r amcanion hyn nifer o gamau gweithredu eang. Mae’r nodau lleihau yn seiliedig ar linellau sylfaen 2018/19 ar gyfer pob thema.
Datgarboneiddio’r Cyngor erbyn 2030
Adeiladau
55% o ostyngiad erbyn 2030
Lleihau allyriadau gwres a thrydan yn adeiladau newydd a phresennol y Cyngor
Dylunio adeiladau ar gyfer carbon sero net, addasiadau a gwella bioamrywiaeth
Symudedd a Chludiant
Gostyngiad o 55% mewn allyriadau erbyn 2030
Trosi fflyd y Cyngor i fod yn gerbydau allyriadau isel iawn
Darparu cynlluniau gweithwyr i annog y defnydd o gludiant cynaliadwy
Dylanwadu cludiant cyhoeddus cynaliadwy
Buddsoddi mewn isadeiledd gwefru cerbydau trydan.
Caffael
Dylanwadu newid mewn gweithgareddau caffael cynaliadwy ac wedi’u datgarboneiddio
Sicrhau fod carbon yn cael ei gynnwys drwy gydol y broses gaffael
Gweithio gyda’n cyflenwyr i ddatblygu arferion gweithio wedi’u datgarboneiddio
Gwella cywirdeb data allyriadau carbon o weithgareddau caffael
Defnydd Tir
Cynyddu am sugniad carbon a chynnal bioamrywiaeth
Datblygu cyfleoedd ar gyfer amsugno carbon, lliniaru llifogydd a gwella bioamrywiaeth ymhellach
Datblygu cyfleoedd ynni adnewyddadwy ymhellach
Cefnogi mentrau economi gylchol
Ymddygiad: mae newid hinsawdd un cael el ystyried wrth wneud pob penderfyniad, mae aelodau a gweithwyr wedi eu hyfforddi ac maent yn ym wybodol o’u cyfrifoldebau.
*Dylid nodi bod y data wedi ei gasglu gan ddefnyddio’r dulliau gorau sydd ar gael bryd hynny, ac felly’r disgwyliad yw y bydd cywirdeb data yn gwella gyda methodolegau sy’n dod i’r amlwg.