Caffael

Mae amcangyfrifon cyfredol gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod 60% - 81% o gyllidebau gweithredu sefydliadau’r Sector Cyhoeddus yn cael eu gwario gyda Chyflenwyr a Chontractwyr. Oherwydd hyn, mae'r Nwyddau, Gwasanaethau a’r Gwaith a ddarperir gan ein Cyflenwyr a'n Contractwyr yn allyrru canran sylweddol o'r carbon rydyn ni'n ei gynhyrchu.
Mae hyn yn gwneud datgarboneiddio o fewn prosesau comisiynu, caffael a rheoli contractau'r Cyngor yn nodwedd allweddol wrth ddylanwadu a lleihau ein hallyriadau.
- Mae gan y Cyngor fethodoleg gref wedi'i sefydlu drwy ein fframwaith TOMs (Themâu, Canlyniadau a Mesurau) ein hunain sy'n defnyddio ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn gweithrediadau caffael.
- Gwasanaeth caffael ar y cyd â Chyngor Sir Ddinbych sy'n caniatáu cydweithredu i sicrhau'r arbedion cost ac effeithlonrwydd mwyaf posibl.
- Adolygu'r Cyd-Strategaeth Caffael Gwerth Cymdeithasol i ddarparu cysondeb a sicrhau nad yw ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cael eu peryglu.
- Mae effeithiau carbon a bioamrywiaeth wedi cael eu cynnwys fel ystyriaeth ar dempled achos busnes gwariant cyfalaf.
- Mae gan y Cyngor fethodoleg gref wedi'i sefydlu drwy ein fframwaith TOMs (Themâu, Canlyniadau a Mesurau) ein hunain sy'n defnyddio ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn gweithrediadau caffael. Mae hyn wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar gyda chanlyniadau carbon ychwanegol wedi’u cynnwys. Mae tendrau allweddol wedi cael eu canfod er mwyn targedu canlyniadau carbon
- Mae cydweithrediad sector cyhoeddus rhanbarthol wedi cael ei ddatblygu ar gyfer comisiynu ‘modiwl e-ddysgu newid hinsawdd’ gyda thri Chyngor arall a grŵp coleg lleol.
- Datblygu rhwydwaith datgarboneiddio ar gyfer ardal ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy er mwyn datblygu nodau ac amcanion a rhannu arferion da. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu grantiau ar gyfer astudiaethau dichonolrwydd lleihau carbon masnachol.
- Adolygiad o’r strategaeth gaffael yn unol ag uchelgeisiau carbon y Cyngor i sicrhau bod mesurau penodol sy’n ymwneud â charbon a bioamrywiaeth yn cael eu hymgorffori yn y broses gaffael.
Camau gweithredu yn y dyfodol:
Byddwn yn:
- Sicrhau bod gostyngiad carbon yn cael ei ystyried yn briodol ym mholisïau caffael, strategaethau, achosion busnes, templedi comisiynu, gwerthusiadau tendro ac ati’r Cyngor.
- Cynyddu’r defnydd o’r fframwaith Themâu, Canlyniadau a Mesurau o fewn caffael ar draws gweithrediadau’r Cyngor drwy weithio gyda gweithwyr sy’n rheoli gweithgareddau caffael
- Cydweithio â Chyngor Sir Ddinbych i sefydlu’r pecyn gwaith gostwng carbon o fewn y broses gaffael.
- Hwyluso darpariaeth hyfforddiant ar gyfer swyddogion a chyflenwyr comisiynu i ddatblygu gwybodaeth a pherchnogaeth o gaffael cyfrifol.
- Deisebu’r newid sydd ei angen i hwyluso’r broses o ddatgarboneiddio’r gadwyn gyflenwi o fewn buddsoddiadau mewn sgiliau gwyrdd.
Cyfyngiadau a Rhyngddibyniaethau
O fewn y thema Caffael, mae rhai cyfyngiadau a rhyngddibyniaethau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Bydd y ffactorau hyn yn cael effaith ar allu’r Cyngor i fodloni’r targed Carbon Sero Net erbyn 2030.
- Argaeledd y gadwn gyflenwi i ddarparu gostyngiad mewn carbon
- Diffyg cadwyn gyflenwi aeddfed mewn meysydd sgiliau gwyrdd
- Diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith carbon o fewn y gadwyn gyflenwi
- Diffyg polisi a fframwaith cenedlaethol i gefnogi datgarboneiddio o fewn y sector preifat
- Osgoi eithrio busnesau bach a chanolig neu gyflenwyr lleol