ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Adeiladau


Solar Panels

Mae adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor yn cynhyrchu swm o allyriadau carbon oherwydd y defnydd o ynni sy'n llosgi tanwyddau ffosil. Ers 2009, cwblhawyd nifer o raglenni i leihau'r allyriadau hyn o'n swyddfeydd, ysgolion, canolfannau hamdden a chyfleusterau gofal. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau Carbon Sero Net, mae angen i ni leihau'r allyriadau ymhellach fyth. 

Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:

  • Wedi gosod systemau carbon isel ac ynni adnewyddadwy mewn dros 50 o'n hadeiladau ein hunain gan gynnwys swyddfeydd, ysgolion a chanolfannau hamdden. Ymhlith y technolegau mae solar ffotofoltäig, solar thermol, tyrbinau gwynt, pympiau gwres, boeleri biomas a gwres a phŵer cyfunedig.
  • Roedd systemau cynhyrchu ynni domestig yn bodloni tua 10% o alw ynni'r Cyngor yn 2018-19.
  • Wedi gosod systemau carbon isel ac ynni adnewyddadwy yn ei gartref ei hun ers 2009 gan gynnwys solar ffotofoltäig, pympiau gwres daear ac awyr a storfa batri. Erbyn hyn mae dros 700 o gartrefi â solar ffotofoltäig ac roedd y Cyngor yn un o'r awdurdodau cyntaf i dreialu'r cyfuniad o bympiau gwres yr awyr, solar ffotofoltäig a storfa batri.
  • Buddsoddwyd mewn technolegau arloesol fel casglwyr solar wedi'u trosi a storfa batri.
  • Cyflwyno rhaglen flynyddol o fesurau effeithlonrwydd ynni, megis inswleiddiad ffabrig adeiladau, atal drafft, boeleri newydd, rheolyddion gwresogi newydd, uwchraddio goleuadau ac ati yn adeiladau annomestig y Cyngor ers 2008.
  • Buddsoddi a darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni yn ein tai ein hunain drwy Safon Ansawdd Tai Cymru a chynlluniau Llywodraeth Cymru / Llywodraeth y DU fel NEST, Arbed, Cronfa Cartrefi Cynnes ac Eco (gan gynnwys gwella cartrefi preifat).
  • Rhesymoli ein hystâd a symud staff i adeilad modern, mwy effeithlon o ran ynni yn Ewlo.
  • Adeiladu ac adnewyddu ysgolion addas ar gyfer y dyfodol drwy'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
  • Newid goleuadau stryd y Cyngor gyda lampau LED sy'n defnyddio cryn dipyn yn llai o drydan.
  • Mae canran mawr o adeiladau bellach wedi’u cynnwys yn y tariff ynni gwyrdd. 
  • Mae Cynllun Rheoli Asedau'r Cyngor wedi cael ei adolygu yn unol â’r strategaeth newid hinsawdd a dyheadau ehangach y Cyngor.  Mae’r gwaith o ad-drefnu asedau yn parhau a bydd yn ystyried effeithiau carbon.
  • Mae’n ofyniad gorfodol i ysgolion newydd, ysgolion gydag estyniad ac ysgolion wedi’u hadnewyddu i weithredu yn Garbon Sero Net (NZCio). Mae’r ysgol NZCio gyntaf ym Mynydd Isa yn mynd rhagddo. Mae cynlluniau uchelgeisiol hefyd yn mynd rhagddynt ar gyfer y cartref gofal NZCio cyntaf.
  • Mae proses barhaus i ganfod dichonoldeb prosiectau isadeiledd gwyrdd posibl ar sail achos wrth achos. Mae cysylltiadau wedi cael eu gwneud i sicrhau bod swyddogion yn cael eu hymgynghori ar y posibilrwydd o gynhwysiant mewn cynlluniau yn y dyfodol.
  • Mae pecynnau gwaith yn cael eu datblygu ar gyfer ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn darparu cyngor a chanllawiau ar gyfrifiad ôl-troed carbon a mesurau lliniaru. Bydd hyn yn cynnwys agweddau o dechnoleg, ymddygiad ac arfer orau.
  • Mae’r Tîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig yn parhau i ddarparu cyngor ar effeithlonrwydd ynni a chefnogaeth i osod mesurau effeithlonrwydd ynni. Datblygu rhwydwaith datgarboneiddio ar gyfer ardal ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy er mwyn datblygu nodau ac amcanion a rhannu arferion da. Mae cyllid wedi cael ei sicrhau trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu grantiau ar gyfer astudiaethau dichonolrwydd lleihau carbon masnachol.

Camau gweithredu yn y dyfodol

Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd dychwelyd gwasanaethau a buddsoddi mewn rhai meysydd, e.e. seilwaith gwefru cerbydau trydan, yn cynyddu ein galw am ynni ac felly mae angen buddsoddiad pellach o ran cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ein hadeiladau a’n hasedau a’n defnydd tir.

Byddwn yn:

  • adolygu ymhellach y broses o resymoli ein hasedau adeiladau a’n prydlesi.
  • Design and renovation of buildings for carbon neutral / low energy operation, biodiversity net benefit and adaptation to the effects of climate change.
  • Cefnogi ysgolion i leihau allyriadau gweithredu.
  • Sicrhau bod seilwaith gwyrdd yn cael ei ystyried ym mhob un o asedau presennol y Cyngor a chynlluniau’r dyfodol, e.e. dyrannu mannau gwyrdd, toeau gwyrdd, creu cynefinoedd.
  • Gwella safon effeithlonrwydd ynni yn ein hadeiladau presennol ac ymgysylltu â defnyddwyr adeiladau i annog newid cadarnhaol mewn ymddygiad.
  • Parhau i gynnal ymchwiliad i a lliniaru llifogydd i nodi mesurau lliniaru rhagweithiol ac atal llifogydd rheolaidd.
  • Deisebu’r newid sydd ei angen i hwyluso’r gwaith o ddatgarboneiddio adeiladau o fewn y sector Ynni a’r Llywodraeth.
  • Blaenoriaethu atebion sy’n seiliedig ar natur i gynigion i adfer llifogydd.
  • Archwilio dichonoldeb cynaeafu dŵr glaw o fewn asedau’r Cyngor, yn enwedig ar safleoedd lle mae’r defnydd o ddŵr yn uchel.

Cyfyngiadau a Rhyngddibyniaethau

O fewn y thema Adeiladau, mae cyfyngiadau a rhyngddibyniaethau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.  Bydd y ffactorau hyn yn cael effaith ar allu’r Cyngor i fodloni’r targed Carbon Sero Net erbyn 2030.

  • Datgarboneiddio’r grid cenedlaethol
  • Argaeledd cyllid, gan gynnwys y datganiad Llywodraeth Leol
  • Argaeledd cyflenwyr i ddylunio a darparu a chynnal cynlluniau
  • Diffyg capasiti o fewn y grid cenedlaethol i hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy