ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Symudedd a Thrafnidiaeth


Climate - Mobility and Transport

Mae allyriadau o'n fflyd a weithredir gan y Cyngor yn parhau i fod yn ffynhonnell gyson o allyriadau carbon. Rydym yn gwybod bod technolegau sy'n ymwneud â thrydan a cherbydau tanwydd hydrogen yn gwella ac mae angen i ni sicrhau nad ydym ar ei hôl hi yn y maes hwn.

Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:

  • Mae fflyd y Cyngor yn bodloni safon Ewro 6 ac felly mae ganddyn nhw yr allyriadau isaf posib ar gyfer cerbydau disel.
  • Cyflwyno llwybrau mwy diogel yn y cynlluniau cymunedol o amgylch ysgolion, annog plant gyda'u teuluoedd i gerdded a beicio i'r ysgol, ceisio mynd i'r afael â llygredd aer o amgylch ysgolion a sicrhau bod pobl yn egnïol ac yn iach.
  • Datblygu opsiynau cludiant yn y gymuned pan fydd gwasanaethau bysiau masnachol wedi dod i stop.
  • Datblygu a darparu llwybrau teithio llesol ledled y Sir.
  • Gosod pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd ledled y wlad.
  • Adolygu ein contract fflyd cyfredol i gyflawni ein trosglwyddiad ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV).
  • Treialu dau gerbyd ailgylchu trydan o ddechrau 2022.
  • Dau fws trydan wedi'u cyflwyno i'r fflyd cludiant.
  • Mae Polisi Gweithio Hybrid wedi cael ei gyhoeddi i annog dulliau gweithio’n hyblyg a’r defnydd o gyfarfodydd ar-lein. Mae 17 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu gosod ar draws 8 o safleoedd parcio ceir cyhoeddus ar draws y sir. Gyda mwy o astudiaethau dichonoldeb yn cael eu cyflawni i ganfod mwy o safleoedd posibl.
  • Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus Rhwydwaith Teithio Llesol ei gwblhau, ac mae’r cam nesaf o welliannau yn digwydd er mwyn gwella’r rhwydwaith cerdded a beicio ar draws y sir.
  • Cyflwyno dau fws trydan i wasanaethu trefniant teithio lleol ym Mwcle a’r cyfleuster Parcio a Theithio Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar Barth 2.

Camau gweithredu yn y dyfodol

Byddwn yn:

  • Newid cerbydau fflyd y Cyngor i fod yn gerbydau allyriadau isel iawn (ULEV) - trydan a thanwydd amgen.
  • Adolygu’r strategaeth fflyd a rheoli siwrneiau i gefnogi dulliau cludiant cynaliadwy.
  • Gweithredu polisïau a mentrau sy’n helpu i leihau allyriadau carbon o filltiroedd busnes a chymudo gweithwyr megis: fforwm rhannu ceir a chynlluniau aberthu cyflog.
  • Deisebu’r newid sydd ei angen i hwyluso’r gwaith o ddatgarboneiddio cludiant o fewn y sector preifat a’r Llywodraeth.
  • Mynd ati i hyrwyddo’r cynllun beicio i’r gwaith presennol i gynyddu cyfranogiad ac adolygu cyfleusterau storio beiciau mewn prif fannau gwaith.

Cyfyngiadau a Rhyngddibyniaethau

O fewn y thema Symudedd a Chludiant, mae rhai cyfyngiadau a rhyngddibyniaethau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Bydd y ffactorau hyn yn cael effaith ar allu’r Cyngor i fodloni’r targed Carbon Sero Net erbyn 2030.

  • Blaenoriaethu darparu gwasanaethau’r Cyngor 
  • Argaeledd cyflenwyr i hwyluso’r broses o newid y fflyd a’u cynnal yn barhaus 
  • Dull darparu’r fflyd i’r dyfodol i hwyluso’r broses o ddatgarboneiddio 
  • Data gwell ar gerbydau a milltiroedd gweithwyr 
  • Gallu cynnig opsiynau amgen sy’n gost effeithiol
  • Diffyg rheolaeth dros y cerbydau y mae gweithwyr yn eu defnyddio i gynnal gweithredoedd Busnes 
  • Diffyg Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan 
  • Diffyg capasiti o fewn y Grid Cenedlaethol i hwyluso isadeiledd gwefru gwell 
  • Newidiadau ym mhatrymau gwaith gweithwyr sy’n effeithio ar drefniadau rhannu ceir 
  • Gwella’r rhwydwaith cludiant cyhoeddus 
  • Argaeledd cyllid, gan gynnwys y datganiad Llywodraeth Leol.