Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathliadau Gwyl Ddewi 2021
Published: 13/01/2021
Mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Ty Pawb, mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam wedi trefnu wythnos gyfan llawn o ddathliadau rhithiol i ddathlu Gwyl Ddewi eleni rhwng Mawrth 1af- 5ed.
Bydd y dathliadau yn wahanol i’r arfer ond rydym yn gobeithio y byddant yn adlewyrchu’r ffaith er ein bod ar wahân eleni rydym yn dal yn gallu dod ynghyd yn rhithiol i ddathlu Gwyl Nawddsant Cymru yn ddiogel.Ìý Mi fydd rhywbeth at ddant pawb a, gan gofio i ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser, mae’r Fenter am eich gwahodd i gymryd rhan mewn amryw o ffyrdd:Ìý Ìý Ìý
Gorymdaith
Gyrrwch glipiau o’ch teulu, cydweithwyr, mudiad neu gymdeithas yn gorymdeithio.
Pasio’r Faner
Gyrrwch glipiau o bobl yn pasio baner Cymru i’w gilydd drwy ei dal ar eu hochr dde a’i thaflu ymlaen i’r ochr chwith.
“Pwy oedd Dewi Sant?�
Gyrrwch glip ohonoch chi neu aelod o’ch teulu yn ateb y cwestiwn uchod. Cadwch ei atebion mor fyr a chryno â phosib.Ìý
Dydd Gwyl Dewi Hapus
Gyrrwch fideo ohonoch yn dymuno “Dydd Gwyl Dewi Hapusâ€� yn y Gymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall rydych chi’n ei siarad.Ìý Ìý
Mi fydd Eisteddfod rhithiol hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos gyda sawl cystadleuaeth i’r gymuned:Ìý
Coginio gyda chynnyrch lleol
Gyrrwch lun o’ch campwaith ynghyd â’r rysáit a llun o’r cynhwysyn/ion lleol.Ìý
Celf
Gyrrwch lun o eitem wedi’i greu o bethau wedi’u hailgylchu ar y thema, ‘Hanes Cymru’.Ìý
Ffotograffiaeth
Gyrrwch lun ar y thema ‘Natur’ neu ‘Harddwch Cymru’.
LimrigÌý
Ysgrifennwch limrig gyda’r llinell gyntaf i gynnwys yr enw ‘Dewi’.Ìý
Cystadleuaeth i’r Dysgwyr
Ysgrifennwch ddeialog ar y thema ‘Mae’r Gymraeg i bawb’.Ìý
I gymryd rhan neu gystadlu yng nghystadlaethau’r Eisteddfod gyrrwch eich cyfraniadau/ eitemau ynghyd â chaniatâd i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol atÌýmaiwenn@menterfflintwrecsam.cymruÌýerbyn 5ed Chwefror gan nodi ym mha sir yr ydych yn byw. Mae manylion cystadlu a chanllawiau ffilmio ar gael ar dudalen Facebook Menter Iaith Fflint a Wrecsam.Ìý
Os am ymuno yn y dathliadau mewn unrhyw ffordd, cofiwch ddefnyddio’r hashnodau #DewiSiryFflint a #DewiWrecsam a chofiwch ddilyn canllawiau Covid-19 Llywodraeth Cymru bob amser.Ìý
Bydd yr holl fideos, lluniau, canlyniadau’r Eisteddfod yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau eraill yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol Menter Iaith Fflint a Wrecsam rhwng Mawrth 1af- 5ed.
Ìý