Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
“DRT� cyntaf Sir y Fflint yn cael ei gyflwyno
Published: 11/02/2020
Yn ddiweddar, cyflwynodd Cyngor Sir y Fflint Wasanaeth Seiliedig ar Alw (DRT) yn ardal Bwcle ac mae’n eithriadol o boblogaidd gyda phreswylwyr.Ìý
Bydd y DRT yn cael ei gyflwyno ym mhob ardal wledig o’r Sir lle nad oes gwasanaethau masnachol ar gael. Mae’n darparu cysylltiadau gwerthfawr i drigolion â gwasanaethau trafnidiaeth, ynghyd â Rhwydwaith Craidd Sir y Fflint, a bydd yn gweithredu yn defnyddio un o gerbydau 16 sedd nodweddiadol Sir y Fflint sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.ÌýÌý
Mewn bore goffi diweddar yng Nghanolfan Gymunedol yr Hôb, Sir y Fflint roedd swyddogion ac aelodau o Sir y Fflint wrth law i gyflwyno’r cynllun ac i ateb unrhyw gwestiynau.Ìý
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Strydwedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:
“Mae’n wych bod yma heddiw i gyflwyno’r gwasanaeth arloesol yma.Ìý Mae’n wasanaeth y gallwch ei archebu ymlaen llaw ac mae angen i bobl gofrestru er mwyn gallu ei ddefnyddio.Ìý ÌýY ffi gofrestru flynyddol yw £10.00. Fodd bynnag, caiff teithwyr sydd ar y gofrestr ar gyfer y gwasanaeth Ffonio a Theithio Cymunedol ar gyfer mynd i apwyntiadau meddygol eu cofrestru am ddim.â€�Ìý
Gallwch gofrestru ac archebu drwy ffonio’r llinell archebu ar 01352 704771. Caiff teithwyr eu casglu o leoliad sy’n gyfleus iddynt a’u cludo i fan allweddol neu safle bws ar hyd y rhwydwaith craidd.Ìý Ìý Efallai y bydd siwrneiau’n cael eu cydlynu gyda siwrneiau teithwyr eraill er mwyn sicrhau y bodlonir y nifer mwyaf o deithwyr am gost o £1.70 y siwrnai. Derbynnir Cardiau Teithio Rhatach Cymru ar y gwasanaeth.Ìý
Bydd y gwasanaeth ar gael rhwng 9am-3pm a 4.30pm-5.30pm, dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn.Ìý

Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý