ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Cardiau a Thocynnau

Tocyn bws (pobl dros 60 neu bobl anabl)

Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod chi’n 60 oed neu’n hŷn, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o’r gwasanaethau bws yng Nghymru a’r gororau. Fe allwch chi hefyd deithio ar drên yn rhatach neu am ddim. Gallwch wneud cais am eich Cerdyn Bws gyda Thrafnidiaeth Cymru drwy glicio’r botwm isod. 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y Cerdyn Bws 60+, cysylltwch â

Cerdyn Bws Anabl a Chydymaith

Os ydych chi’n bodloni meini prawf cymhwyso’r Llywodraeth o ran anabledd, gallwch deithio am ddim ar fwyafrif y gwasanaethau bws yng Nghymru a’r ffiniau a gallwch deithio’n rhatach neu am ddim ar lawer o wasanaethau rheilffordd. Gallwch ymgeisio am Gerdyn Bws Anabl a Chydymaith drwy anfon neges e-bost ConcessionaryTravel@siryfflint.gov.uk

Cardiau Rheilffordd

Mae llawer o wahanol fathau o gardiau rheilffordd ar gael.

Y 9 prif fath o Gardiau Rheilffordd sydd ar gael yw:

FyNgherdynTeithio

 16 - 21 oed? Cei arbed tua 30% ar deithiau bws yng Nghymru.

1bws

Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws yn gadael i chi ddefnyddio gwasanaethau 27 o weithredwyr bysiau a bron i 200 o lwybrau bysiau ledled gogledd Cymru. Felly fe allwch chi deithio o gwmpas yn hawdd heb orfod poeni pa fws i’w ddal. Mae tocynnau 1bws yn ddilys am ddiwrnod cyfan, hyd at ac yn cynnwys y bws olaf. 

Fe allwch chi ddefnyddio tocyn 1bws ar unrhyw wasanaeth bws yng ngogledd Cymru o fewn y siroedd canlynol, neu i ac o’r siroedd hyn:

  • Conwy
  • Gwynedd
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam 
  • Ynys Môn