Mae gennym ni tua 500 o finiau/tomenni halen ar draws y sir. Rydym wedi eu gosod mewn lleoedd lle rydym yn gwybod y gallai fod yna broblemau, fel bryniau serth, troadau llym a chyffyrdd anodd. Maent yn cael eu gosod yn seiliedig ar feini prawf a gymeradwywyd gan Aelodau.
Ail-lenwi biniau graean
Bydd yr holl finiau halen yn cael eu llenwi ar ddechrau tymor y gaeaf a’u hail-lenwi eto ar ôl tywydd difrifol, cyn belled â bod halen bras ar gael a bod ei angen.
Nid darparu graean ar gyfer troedffyrdd a rhodfeydd preifat yw pwrpas y biniau. Defnyddiwch nhw ar gyfer troedffyrdd cyhoeddus yn unig a lle mae yna broblem ar y ffordd. Os gwelwch bobl yn gwagio symiau mawr o halen o’r biniau hyn neu os ydych yn meddwl ein bod wedi methu bin wrth ail-lenwi, rhowch wybod i ni gyda chymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl.
Gall y graean bras iawn sydd yn y biniau hyn ddifrodi rhodfeydd preifat sydd ag wynebau llai gwydn nag wynebau priffyrdd, felly os ydych yn ei ddefnyddio gallech orfod talu am waith i drwsio eich rhodfa yn y pen draw. Os ydych yn cyflogi rhywun i raeanu eich rhodfa, gofynnwch iddyn nhw o ble mae’r graean wedi dod. Gellir prynu graean addas yn y rhan fwyaf o siopau DIY/nwyddau metel neu fasnachwyr adeiladu.