ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Teithio Llesol

Mae teithio llesol yn disgrifio cerdded a beicio ar gyfer siwrneiau pwrpasol i gyrchfan, neu mewn cyfuniad â chludiant cyhoeddus. Er bod cerdded a beicio ynddynt eu hunain yn weithgareddau iach, y dylid eu hannog, pan fônt yn disodli siwrneiau car maent yn rhoi buddion pwysig o ran iechyd a lles Cymru.

Yn rhan o ofynion , mae’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint gyflwyno Map Rhwydwaith Teithio Llesol diwygiedig i ddangos sut rydym ni’n datblygu’r rhwydwaith angenrheidiol i alluogi pobl i ddewis teithio’n llesol ar gyfer siwrneiau lleol.

Cyflawnom ymgynghoriad cymunedol er mwyn i bobl allu awgrymu newidiadau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys ar y map, a derbyniom 2647 o gyfraniadau. Gellir gweld y wybodaeth am yr  ar-lein.

Yn dilyn cyfnod o ymgysylltiad cyhoeddus, mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn i Gynghorau gyflawni ymgynghoriad statudol i roi cyfle i’r cyhoedd wirio bod eu safbwyntiau wedi cael eu hystyried. Gellir gweld y wybodaeth am yr ar-lein.