Rhoi gwybod am gerbyd wedi ei adael
Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am y cerbyd, gan gynnwys:
- rhif cofrestru / gwneuthuriad / model
- am ba hyd mae wedi ei adael yno
- lleoliad
- unrhyw luniau/fideos
Beth fydd yn digwydd nesaf
Os yw’r swyddog yn credu bod posibilrwydd bod cerbyd wedi’i adael, yna mae’r manylion cofrestru’n cael eu gwirio a byddwn yn derbyn manylion y perchennog cofrestredig diwethaf.
Byddwn yn ceisio cysylltu â’r perchennog cofrestredig diwethaf drwy gnocio drws neu anfon llythyr ac efallai y byddwn yn rhoi rhybudd ar y cerbyd yn egluro y byddwn yn ystyried ei symud ar ôl cyfnod penodol o amser.
Os nad yw unrhyw un yn cysylltu â ni fel perchennog y cerbyd, gallwn ei symud ar ôl i’r cyfnod rhybudd ddod i ben. Os yw cerbyd yn cael ei symud neu ei hawlio gan y perchennog cofrestredig yn ystod y cyfnod hwn yna ni allwn ni gymryd unrhyw gamau pellach, os oes gan ein swyddogion unrhyw bryderon parhaus am y cerbyd yna mae modd rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru neu’r DVLA.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau ein bod yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â pherchennog cyfreithiol posibl y cerbyd.
Os yw cerbyd mewn cyflwr a allai fod yn beryglus ar y briffordd neu’n anniogel ac nad oes manylion ar gyfer y perchennog cyfredol, byddem yn ystyried hyn fel risg iechyd a diogelwch a gellir symud y cerbyd heb rybudd. Bydd unrhyw gerbydau sy’n cael eu symud heb rybudd yn cael eu hadrodd i Heddlu Gogledd Cymru.
Os yw’r cerbyd ar dir preifat yna bydd gofyn i’r swyddog siarad â pherchennog y tir cyn gweithredu mewn unrhyw ffordd.