Anableddau Dysgu
Mae Tîm Anabledd Dysgu Cymunedol Sir y Fflint yn gweithio gydag oedolion sydd ag anableddau dysgu.
Os oes gennych anabledd dysgu, gallwn eich helpu i:
- Gael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- Dod o hyd i bethau i’w gwneud yn ystod y dydd a’r nos
- Cynllunio ar gyfer eich dyfodol
- Aros yn ddiogel yn eich cartref a thu hwnt
- Gofalu am iechyd eich corff a’ch meddwl
- Cael llais a chael eich clywed
- Cyfrifo’ch arian a’ch cyllideb
- Rhoi cynnig ar bethau newydd
- Cael cymorth neu helpu’r bobl sy’n rhoi cymorth i chi eisoes
Yn ein tîm mae gennym:
Weithwyr Cymdeithasol, Nyrsys, Swyddogion Adolygu, Seicolegydd Clinigol, Seiciatrydd, Therapydd Galwedigaethol, Therapyddion Iaith a Lleferydd, Ffisiotherapydd, Gweithwyr Cymorth Iechyd, Gweinyddwyr
I gael cymorth a chyngor:
Os oes gennych weithiwr cymdeithasol eisoes, ffoniwch rhwng 8.30am a 5pm 01352 701081.
Neu os nad oes gennych weithiwr cymdeithasol, ffoniwch Un Pwynt Mynediad 03000 858858. Mae’n bosibl y gall cyrff eraill roi help, cyngor a gwybodaeth hefyd.
Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol Sir y Fflint
Gwasanaethau Cymdeithasol
Tŷ Dewi Sant,
Parc Dewi Sant,
Ewlo,
CH5 3FF
Rhif y tu allan i oriau 0345 0533116
Sefydliadau
Easy-Read
Cerddoriaeth a Drama
Youtube (Hijinx)
Teithio
Bathodynnau Glas