Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy
Lansiwyd y Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy yn genedlaethol yn 2011 ar gyfer pob lleoliad gofal plant yng Nghymru, fel estyniad o Rwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru. Mae’n gynllun achredu cenedlaethol sy’n cydnabod lleoliadau cyn ysgol fel cyfranwyr at iechyd a lles plant. Mae lleoliadau sy’n gwreiddio’r cynllun yn cael eu hachredu a’u nodi am eu hymdrechion wrth hyrwyddo iechyd corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol.
Gellir diffinio lleoliad y blynyddoedd cynnar a gofal plant fel un sy’n ‘hyrwyddo a diogelu iechyd a lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned drwy gymryd camau cadarnhaol. Gellir cyflawni hyn drwy bolisi, cynllunio strategol a datblygu staff ynglŷn â'i ethos, amgylchedd ffisegol a chysylltiadau cymunedol.’
Mae gan feini prawf y cynllun ddangosyddion clir ar gyfer pedair agwedd gyson ymarfer: Arweinyddiaeth a Chyfathrebu, Cynllunio a Darparu, Ethos ac Amgylchedd, a Theulu a Chyfranogiad y Gymuned.
Mae lleoliadau yn gweithio tuag at gyflawni statws y cynllun drwy ddangos tystiolaeth o’r gwaith a wnaed yn erbyn pob meini prawf ar gyfer pynciau iechyd allweddol;
- Y Cam Rhagarweiniol
- Maeth ac Iechyd y Geg
- Gweithgarwch Corfforol a Chwarae Egnïol
- Lles Emosiynol a Meddyliol gan gynnwys Perthnasau
- Amgylchedd
- Diogelwch
- Hylendid
- Iechyd a Lles yn y Gweithle
Sut mae’r Cynllun yn cael ei weithredu?
Mae’r Cynllun Cyn Ysgol Iach yn cael ei weithredu a’i achredu mewn ‘camau’. Mae pob cam yn para tua blwyddyn. Mae’n rhaid i leoliadau ddatblygu a hyrwyddo 8 maes gweithredu penodol y cynllun.
Y Cam Rhagarweiniol
Mae dull lleoliad cyfan cyn cynnwys cynllunio rhaglenni iechyd sydd wedi’u cydlynu, sy’n gynhwysfawr ac yn flaengar, ac yn elwa cymuned gyfan y lleoliad.
Maeth ac Iechyd y Geg
Adlewyrchu dull lleoliad cyfan i fwyd, maeth, ac iechyd y geg, gan ymgorffori hyrwyddo diet iach a chytbwys sy’n seiliedig ar ganllawiau cenedlaethol cyfredol, ac ymarfer da mewn perthynas ag iechyd y geg.
Gweithgarwch Corfforol / Chwarae Egnïol
Bydd lleoliadau’n cefnogi ac yn hyrwyddo ystod eang o weithgareddau corfforol hygyrch a chwarae egnïol ar gyfer plant a staff, gan gynnwys mynediad i amgylcheddau chwarae a phrofiadau sy’n diwallu anghenion datblygol plant.
Lles Emosiynol a Meddyliol gan gynnwys Perthnasau
Adlewyrchu ar ethos y lleoliad a ddylai annog parch, a hyrwyddo lles meddyliol ac emosiynol, yn y synnwyr ehangach, i bawb sy’n gweithio ynddo. Mae hefyd yn amlygu ar bwysigrwydd datblygiad perthnasau cadarnhaol, ac o ganlyniad mae’n cynnwys rhai agweddau ar ddatblygiad personol. Bydd cymhwyso’r agwedd ragarweiniol a’r Lles Emosiynol a Meddyliol, gan gynnwys agweddau ar berthnasau, yn cefnogi lleoliadau i ddiwallu eu dyletswyddau dan y fframwaith statudol ar gyfer mewnosod dull ysgol gyfan o weithio tuag at les emosiynol a meddyliol.
Y Amgylchedd
Bydd lleoliadau yn hyrwyddo amgylchedd diogel, ysgogol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd y bobl sydd ynddo, gyda phwyslais ar ofalu am yr amgylchedd tu mewn a thu allan i’r lleoliad.
Diogelwch
Bydd lleoliadau’n adlewyrchu dull rhagweithiol o weithio tuag at bob agwedd ar ddiogelwch, gan gynnwys gwaith ar sylweddau. Dylai fod yn glir y gall defnydd rhieni a staff o alcohol a sylweddau anghyfreithlon effeithio ar ddiogelwch plant yn y lleoliad. Mae ysmygu’n cael ei gynnwys yn yr adran hon, ond dylai gael ei ystyried fel mater iechyd, ac nid mater o ddiogelwch yn unig. Mae rhai agweddau ar iechyd yn statudol, er enghraifft diogelu, iechyd a diogelwch, a phan gyfeirir at y ‘rhain, bydd angen eu hystyried ar wahân yn fanylach. Mae imiwneiddio’n cael ei gynnwys yma hefyd fel mater o ddiogelwch. Mae cadw cofnod o imiwneiddio yn arfer da, sy’n ddefnyddiol mewn achosion o heintiau.
Hylendid
Drwy’r agwedd hon bydd lleoliadau yn adlewyrchu ar hylendid da, ac mae’n bwysig iawn i leoliadau’r blynyddoedd cynnar. Mae dull lleoliad cyfan o weithio’n hanfodol, gydag arweinyddiaeth gref, i imiwneiddio neu atal clefydau trosglwyddadwy, a lledaeniad, a’u hyrwyddo i gael arferion atal a rheoli heintiau ar waith ar gyfer staff, plant a’u teuluoedd.
Iechyd a Lles yn y Gweithle
Hyrwyddo gweithle sydd ag ymrwymiad i iechyd a lles staff. Bydd cyflogwyr sy’n mabwysiadu arferion gweithio da yn cael gweithlu hapus, iach a chynhyrchiol, gyda lefelau is o absenoldeb.
Achrediad yw rhan bwysicaf proses y cynllun, gyda lleoliadau’n derbyn cydnabyddiaeth swyddogol o’r gwaith a wnaed. Mae lleoliad Cyn Ysgol Iach yn un sydd, nid yn unig yn gweithio tuag at achrediad, ond yn ymgorffori ac yn cofleidio iechyd a lles o fewn ei fywyd bob dydd.
Dilynwch ni ar
Cysylltwch â ni ysgolioniach@siryfflint.gov.uk