ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Rhaglen Bwyd a Hwyl


Cydweithio i hyrwyddo byw’n iach, cefnogi lles cadarnhaol a gwella ymgysylltiad ag addysg a’r ysgol yn ystod gwyliau’r haf.

Beth ydi Bwyd a Hwyl?

Bwyd a Hwyl - Food and Fun

Mae Bwyd a Hwyl (a elwir yn flaenorol yn rhaglen cyfoethogi gwyliau’r ysgol) yn rhaglen addysgol wedi’i leoli yn yr ysgol sy’n darparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth, ymarfer corff a sesiynau cyfoethogi i blant mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau haf yr ysgol.  

Gan ddechrau fel cynllun peilot gan Gyngor Caerdydd yn 2015, mae Bwyd a Hwyl wedi datblygu’n rhaglen genedlaethol wedi’i hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru a gaiff ei gweinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Mae Bwyd a Hwyl yn bartneriaeth arloesol sy’n cael ei gydlynu yn Sir y Fflint, gan y tîm Ysgolion sy’n Hyrwyddo Iechyd a Lles, a gefnogir hefyd gan Newydd, Gwella, ysgolion a dieteteg (Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr). 

Pobl Ifanc 5 - Young People 5

Mae pob ysgol sy’n cymryd rhan ar agor am gyfanswm o 12 diwrnod dros 3 wythnos yng ngwyliau’r haf, gyda lle am hyd at 40 o blant fesul cohort. Mae’r cydrannau dyddiol craidd yn cynnwys: brecwast am ddim, awr o weithgarwch corfforol o leiaf, addysg maetheg a chinio am ddim. Ar un diwrnod bob wythnos, estynnir gwahoddiad i aelodau o’r teulu i ymuno â’r plant am ginio.

Yn 2024, cymrodd 205 ysgol ran yn y rhaglen gan ddarparu mwy na 13,040 o leoedd i blant bob dydd y bu’n rhedeg. Darparwyd Bwyd a Hwyl yn 2018 am y tro cyntaf mewn dwy ysgol, ac ymestynnodd i ddeg ysgol yn 2024.

Beth yw Canlyniadau Bwriedig Bwyd a Hwyl?

  • Improved Mental Health and Emotional Wellbeing
  • Educational Attainment and School Engagement
  • Improved Aspirations
  • Improved Physical Activity
  • Improved Dietary Behaviour

I gael rhagor o wybodaeth


Dilynwch ni ar

Cysylltwch â ni ysgolioniach@siryfflint.gov.uk

  • Gwefannau Defnyddiol