A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022?
A fyddan nhw’n 4 oed erbyn 31 Awst, 2026?
Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth derbyn ym Medi 2026.
Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar-lein am le yn yr dosbarth derbyn ar gyfer mis Medi 2026.
Bydd dolen i’r ffurflen gais ar gael o’r dyddiad a nodir uchod.
Cliciwch isod, yna cliciwch ar 'Mewngofnodi neu Greu Cyfrif'.
Sylw
Os ydych yn creu cyfrif gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost @icloud neu @me, ni fydd ein system yn anfon tocyn i gadarnhau eich cyfrif.
Felly, anfonwch e-bost at derbyniadau@siryfflint.gov.uk gan ofyn i’ch cyfrif gael ei gadarnhau.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Derbyn yw.
Amserlen ar gyfer derbyniadau Derbyn
| Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni: | Cyfnod i’r rhieni ystyried: | Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni: | Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd: | Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”) |
|
22/09/25
7yb
|
22/09/25 - 17/11/25 |
17/11/25 |
18/11/25 - 23/02/26 |
16/04/26
8yb
|
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (23 Chwefror 2026) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (16 Ebrill 2026).