A gafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023?
A fyddan nhw’n 3 oed erbyn 31 Awst, 2026?
Os felly, bydd cyfle i’ch plentyn ddechrau mewn dosbarth meithrin ym mis Medi 2026.
Erbyn hyn, gallwch wneud cais ar-lein am le yn yr dosbarth meithrin ar gyfer mis Medi 2026.
Bydd angen i chi gofrestru i gael cyfrif er mwyn gwneud cais.
Cliciwch isod, yna cliciwch y botwm i greu cyfrif.
Sylw
Os ydych yn creu cyfrif gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost @icloud neu @me, ni fydd ein system yn anfon tocyn i gadarnhau eich cyfrif.
Felly, anfonwch e-bost at derbyniadau@siryfflint.gov.uk gan ofyn i’ch cyfrif gael ei gadarnhau.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yr amserlen ar gyfer derbyn i’r Dosbarth Meithrin yw
Amserlen ar gyfer derbyniadau meithrin
| Ffurflenni derbyn disgyblion ar gael i’r rhieni yn yr wythnos yn dechrau: | Cyfnod i’r rhieni ystyried: | Dyddiad cau ar gyfer llenwi a dychwelyd ffurflenni: | Cyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd: | Rhoi gwybod i rieni (“Diwrnod Cynnig”) |
|
22/09/25
7yb
|
22/09/25 - 16/02/26 |
16/02/26 |
17/02/26 - 23/03/26 |
05/05/26
8yb
|
Rhaid i bob cais ddod i law erbyn y dyddiad cau.
Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir ar amser, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (23 Mawrth 2026) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (5 Mai 2026).
Sylwch
Mae'r cais hwn ar gyfer meithrinfa ysgol yn unig ac nid Hawl Bore Oes na Chyllid Gofal Plant.
I gael rhagor o wybodaeth am Hawl Bore Oes / Cynnig Gofal Plant cliciwch yma.