Newidiadau i Faterion sy'n Codi - Ymgynghoriad
Yn dilyn y Sesiynau Gwrandawiad a gynhaliwyd fel rhan o'r archwiliad cyhoeddus i CDLl Sir y Fflint, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad ar y Newidiadau i'r Materion sy'n Codi (NMC). Cynhaliwyd y sesiynau gwrandawiad gan Sian Worden Arolygydd Cynllunio Arweiniol a Claire MacFarlane Arolygydd Cynorthwyol, a benodwyd gan Weinidogion Cymru. Yn codi o’r sesiynau gwrandawiad oedd cyfres o Newidiadau i’r Materion sy’n Codi a drafodwyd mewn sesiwn gwrandawiad pellach a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021. Cytunwyd ar y Newidiadau i’r Materion sy’n Codi gyda’r Arolygydd, neu yn achos ANMC a fwriadwyd gan yr Arolygydd, ac mae’r newidiadau hyn yn ofynnol i wneud y Cynllun yn gadarn.
Gellir gweld y Rhestr o NMC a dogfennau ategol yn a .
Mae’r dogfennau ymgynghori NMC yn cynnwys y canlynol:
Dylid darllen y NMC ar y cyd â’r dogfennau a ganlyn:
- Pwyntiau Gweithredu Sesiwn Gwrandawiad a ddiweddarwyd
- Datganiad ysgrifenedig CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd
- Mapiau cynigion CDLl i'w archwilio gan y cyhoedd:
Mae’r rhestr o Newidiadau i’r Materion sy’n Codi wedi ei rhannu yn ddwy ran:
- y NMCau sy’n newidiadau o sylwedd sy'n effeithio ar weithrediad y cynllun megis geiriad polisi, testun esboniadol neu fapiau cynigion.
- y Newidiadau Materion sy'n Codi dan arweiniad Arolygydd sy’n ymwneud yn unig â dileu’r elfen dai ar Safle Strategol Neuadd Warren STR3B.
Mae’r mân newidiadau golygu nad ydynt yn effeithio ar sylwedd y Cynllun wedi’u cyflwyno er gwybodaeth yn unig ac ni wahoddir sylwadau. Dylid pwysleisio y dylai sylwadau ar y cam hwn o archwilio’r cynllun ymwneud yn unig â’r NMC ac archwiliad o’r newidiadau i’r materion (ANMC) sy’n codi ac ni ddylent geisio ychwanegu at sylwadau blaenorol neu gyflwyno gwrthwynebiadau newydd i’r cynllun.
Rhaid i bob sylw nodi’r NMC neu’r ANMC neu ddogfen atodol y mae’n ymwneud â hi a nodi’n glir os cefnogir neu wrthwynebir y NMC neu’r ANMC, a chynnwys esboniad a rhesymeg briodol, gan gynnwys sut dylid newid y cynllun i’w wneud yn gadarn.
Mae’r ymgynghoriad ar y NMCau am gyfnod o 6 wythnos. Mae’r cyfnod ymgynghori yn dechrau ddydd Gwener 17 Mehefin ac yn dod i ben am 5.00pm Dydd Gwener 29 Gorffennaf 2022. Gellir cyflwyno sylwadau drwy’r dulliau canlynol:
- trwy lawrlwytho’r ffurflen sylwadau (dogfen word ) a’i hanfon ar e-bost i developmentplans@flintshire.gov.uk neu bostio i’r cyfeiriad isod
- trwy e-bostio developmentplans@flintshire.gov.uk
- trwy ysgrifennu at Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NB.
Bydd sylwadau a wnaed yn briodol ar y NMCau yn cael eu hanfon at yr Arolygwyr i’w hystyried. Bydd hyn yn cynorthwyo’r Arolygydd wrth gwblhau ei hadroddiad ysgrifenedig ar Archwilio’r CDLl i'w archwilio gan y Cyhoedd. Bydd sylwadau ac enwau’r rhai sy’n gwneud sylwadau yn cael eu cyhoeddi ond bydd gwybodaeth bersonol bellach yn cael ei golygu. Mae Hysbysiad Preifatrwydd Archwiliad CDLl ar gael .
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn cysylltwch â’r tîm CDLl ar 01352 703213 neu developmentplans@flintshire.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r Archwiliad o’r CDLl dylid cyfeirio’r rhain at y Swyddog Rhaglen ar 07582 310364 neu kerry.trueman@flintshire.gov.uk