Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobrau prentisiaethau
Published: 10/04/2017
Cafodd hyfforddeion y Cyngor yn Academi Sir y Fflint, sy’n gweithio tuag at eu
prentisiaethau neu sydd wedi eu cwblhaun llwyddiannus, eu llongyfarch mewn
seremoni wobrwyo ddiweddar yn 6ed Glannau Dyfrdwy.
Bob blwyddyn, caiff nifer o brentisiaid eu recriwtio i weithio ar draws y
Cyngor. Ar hyn o bryd, mae 58 o hyfforddeion mewn lleoliadau ar draws y
sefydliad.
Mae’r prentisiaid fel arfer yn mynychu Coleg Cambria ar un diwrnod astudio dros
ddwy neu dair blynedd tra byddant yn cael eu hyfforddi a’u hasesu yn y
gweithle.
Dau o enillwyr gwobr fawreddog Hyfforddai’r Flwyddyn yn Sir y Fflint a gwobr
Hyfforddai Sylfaen y Flwyddyn yn Sir y Fflint oedd Alex McLaren a Leah Newton,
a derbyniodd y ddau eu tlysau gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin
Everett.
Dymuna Academi Cyngor Sir y Fflint a Choleg Cambria longyfarch Alex ar gyrraedd
cam 2 yng nghystadleuaeth Prentis Trydanol y Flwyddyn NICEIC ac ELECSA ar
gyfer 2017’.
Roedd Alex, sy’n 20 oed ac o Garden City, ymysg yr 20% gorau o 400 o ymgeiswyr
rhagorol yng ngham 1. Dywedodd Alex:
“Roedd bod yn yr 20% gorau yn gwneud i mi deimlo’n falch iawn, ac mae wedi rhoi
hyder i mi at y cam nesaf. Mi gefais fy annog i roi cynnig ar y gystadleuaeth
gan fy nhiwtor yn y coleg ac fe ddewisais fynd ati ar Ă´l bod yn Sioe Fyw NICEIC
ar gae ras Aintree ym mis Tachwedd.
Bydd Alex, sydd yn ail flwyddyn ei brentisiaeth, yn mynd drwodd i gam 2 i
sefyll arholiad. Derbyniodd Sophie Ellis wobr unigryw ac arbennig iawn – gwobr
Helen Stappleton, a gyflwynwyd gan Colin Everett.
Y rhai eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Rebecca Jones, Ryan Varker,
Tara O’Boyle a Rachel Pearson.
Dywedodd Colin Everett, y Prif Weithredwr:
“Rydym yn falch iawn o’n cynllun prentisiaid yn Sir y Fflint, sy’n cael ei
gydnabod gan awdurdodau eraill a darparwyr addysg bellach fel arfer da gyda’n
partneriaeth gyda Choleg Cambria. Mae’r gyfradd sy’n llwyddo yn
uchel iawn – mae 98% o’n hyfforddeion yn cael eu cyflogi un ai gan y Cyngor
neun allanol ac mae rhai yn mynd i’r Brifysgol i barhau i astudio.
“Rwy’n benodol falch o groesawu ein prentisiaid o’r Cynllun Prentisiaid newydd
ar y Cyd (Futureworks Sir y Fflint) i’r seremoni wobrwyo am y tro cyntaf.
Mae’r cynllun ar y cyd yn helpu i greu’r nifer fwyaf bosib’ o bobl leol sydd â
sgiliau trwy brentisiaethau, ac mae eu hangen ar gyfer rhaglenni mawr y Cyngor
i adeiladu ac adnewyddu tai dros y pum mlynedd nesaf.
“Llongyfarchiadau i’n holl hyfforddeion, graddedigion ar rhai sydd wedi ennill
gwobrau ac, ar ran Academi Sir y Fflint a Choleg Cambria, hoffwn ddymuno pob
lwc i Alex.
Dywedodd Prif Weithredwr Coleg Cambria, David Jones OBE:
“Roeddem yn falch iawn o gynnal y digwyddiad mawreddog hwn, a oedd yn gyfle
gwych i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad y prentisiaid. Mae’r cynllun
prentisiaethau rydym yn ei ddarparu ar y cyd â Chyngor Sir y Fflint yn
caniatáu i bobl o bob oed ennill cymwysterau, gan ddysgu sgiliau ymarferol a
chael profiad yn y gwaith. Mae mor dda gweld bod gan y Cyngor ddull mor
gadarnhaol o hyfforddi a’u bod wedi llwyddo i benodi a datblygu yfforddeion
mor dalentog.”
Mae’r Cyngor bellach am recriwtio 33 o bobl i ymuno â rhaglen brentisiaethau
2017. Mae’r microwefan bellach ar waith ac yn cynnwys gwybodaeth am yr holl
leoliadau. Er mwyn gweld y wybodaeth ac i wneud cais, ewch i
www.flintshire.gov.uk/trainees
Prentisiaid gyda Colin Everett ac David Jones