Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae Sir y Fflint yn barod am haf llawn hwyl
Published: 04/07/2022

Mae cynlluniau chwarae’r haf Sir y Fflint yn paratoi ar gyfer “Haf Llawn Hwyl�.
Bydd y cynlluniau’n cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae’r Cyngor mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol a Llywodraeth Cymru.Ìý
Bydd y cynlluniau chwarae yn dechrau ledled y sir ddydd Iau 21 Gorffennaf (yn ystod yr wythnos).Ìý Mae’r holl sesiynau yn rhad ac am ddim i blant rhwng 5 a 12 oed.Ìý
Mae mwyafrif aelodau ein tîm yn dychwelyd atom ni ar ôl gweithio ar y cynllun yn ystod hafau blaenorol. Maen nhw wedi cael gwiriad manylach y DBS ac wedi cwblhau rhaglen hyfforddi gynhwysfawr.
Rhaid cofrestru ymlaen llaw (ar lein) ar gyfer pob safle.Ìý Ìý
Bydd cynlluniau chwarae’n rhedeg am 3, 4, 5 neu 6 wythnos – i gael mwy o fanylion.Ìý
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, bydd Cynllun Cyfeillio Sir y Fflint yn rhan annatod o’r ddarpariaeth hon, ac yn darparu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 17 oed sydd ag anableddau.ÌýÌý
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â:
Ìý
cynllunchwaraesyff@siryfflint.go.uk or 01352 704154
Ìý