Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Published: 08/03/2022
Mae Cyngor Sir y Fflint yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni drwy ddathlu gyda’u cynghorwyr sy’n ferched.
Yng Nghymru, dim ond 28% o gynghorwyr lleol sy’n ferched, yn dilyn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017. (Source ). Nid yw dynion a merched yn cael eu cynrychioli'n gyfartal mewn dim un o awdurdodau lleol Cymru. Yn amlach na pheidio, merched yw 20% i 30% o’r aelodau ac weithiau llai. Yn Sir y Fflint, mae gennym 17 o ferched yn gynghorwyr ar hyn o bryd allan o 70, sydd ychydig dros 24%.ÌýÌý
Y ddelwedd gyffredinol o lywodraeth leol yng Nghymru yw o ddynion gwyn dros 60 oed.Ìý Nid oes dim un cyngor yng Nghymru erioed wedi cyflawni cydraddoldeb o ran rhyw. Yn Sir y Fflint, mae’r sefyllfa yn well na chynghorau eraill, ond mae arnom eisiau annog mwy o ferched i ddod yn gynghorwyr yn yr etholiadau lleol nesaf ym mis Mai.
Meddai Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint, Neal Cockerton:
“Gall syniadau a brwdfrydedd pob cynghorydd newydd wella a chryfhau ein Cyngor.Ìý Mae pob cynghorydd yn cael cefnogaeth gan y Cyngor.Ìý Mae gennym raglen gyflwyno i aelodau newydd i ddangos i chi ble a phwy yw pawb, ac yna rhaglen gynefino i ddilyn i’ch helpu chi ddeall y rôl, gweithdrefnau’r cyngor a’r sgiliau ymarferol fydd arnoch eu hangen.ÌýÌý
“Yn ogystal â chael cyflog sylfaenol, rydym yn cynnig cefnogaeth ychwanegol os oes gennych deulu ifanc neu gyfrifoldebau gofalu - yn cynnwys cefnogaeth ariannol ychwanegol a threfniadau gweithio hyblygâ€
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Ìýi wybod mwy am fod yn gynghorydd a chlywed gan bobl sy’n gynghorwyr yn barod - pobl gyffredin yn gwneud pethau anghyffredin.Ìý
Ìý
Ìý