Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
Published: 01/02/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
ar 7 Chwefror er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg
ddigidol, yn arbennig ymysg plant a phobl ifanc.
Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal ar ail ddiwrnod yr ail wythnos yn yr ail fis
bob blwyddyn; ac mae miloedd o bobl yn uno i godi ymwybyddiaeth o broblemau
diogelwch ar-lein a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y
byd. Y thema eleni yw Byddwch yn rhan o’r newid: Unwch ar gyfer gwell
rhyngrwyd’.
Dywedodd y Cynghr. Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu
Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint:
“Mae’r rhyngrwyd wedi dod yn rhan o’n bywydau pob dydd, ond mae’n bwysig cofio
bod yna bobl sy’n achub ar bob cyfle posibl i beryglu’ch diogelwch ar-lein. Mae
Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl
o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r byd ar-lein. Mae’n bwysig ein bod ni’n
diogelu ein hunain a’n plant a’n pobl ifanc yn erbyn peryglon posibl, i sicrhau
ein bod ni i gyd yn mwynhau pori drwy’r we ac yn osgoi seiberdroseddau.�
Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut y gallwch chi aros yn ddiogel ar-lein:
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a chofiadwy
- Gosodwch feddalwedd gwrth-firws ar declynnau newydd
- Gwiriwch osodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
- Siopwch yn ddiogel ar-lein – cofiwch wirio a yw safleoedd manwerthu ar-lein
yn ddiogel
- Lawrlwythwch feddalwedd a phatshys rhaglenni pan ofynnir i chi wneud hynny
- Peidiwch byth â chwrdd â ‘ffrind’ ar-lein
- Peidiwch â datgelu gwybodaeth bersonol
- Os ydych chi’n cael ei bwlio ar-lein – dywedwch wrth rywun cyn i bethau fynd
yn waeth
- Peidiwch ag uwchlwytho na rhannu lluniau pryfoclyd –unwaith y byddant ar-lein
byddant allan o’ch dwylo
Yn ddiweddar adroddodd Gyngor Sir y Fflint sut y mae un o ysgolion cynradd y
sir wedi ei hamlygu fel enghraifft ddisglair o’r oes digidol.
Yn 2015 cafodd Ysgol Gynradd Parc Cornist yn y Fflint ei dewis fel yn o
ysgolion “arloeswyr digidol� Llywodraeth Cymru. Ers hynny mae wedi gwella
cymhwysedd digidol disgyblion, staff, rheini, llywodraethwyr a’r gymuned
ehangach wrth gynnwys technoleg ddigidol ym mywyd yr ysgol.
Mae’r ysgol wedi mynd â thechnoleg ddigidol i lefel newydd. Un o nodau
allweddol yr ysgol yw galluogi disgyblion, staff, rhieni, llywodraethwyr a’r
gymuned ehangach i gysylltu, cydweithio a chyfathrebu ar-lein mewn dull
cyfrifol a diogel. Mae disgyblion yn codi ymwybyddiaeth o e-Ddiogelwch� a
dysgu digidol ymhlith cymuned yr ysgol, yn ogystal ag ysgolion eraill ar draws
y sir. Maent hyd yn oed wedi cynnal sesiwn galw heibio mewn banc lleol i helpu
cwsmeriaid ddysgu am fod yn ddiogel ar-lein.
Cafodd y gwaith hwn ei gydnabod fel enghraifft o’r arfer orau gan Brif
Arolygydd Estyn yn ei Adroddiad Blynyddol.
Dewch i ganfod mwy am y Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chymryd
rhan! www.saferinternetday.org.uk #SID2017.