Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Gic Gyntaf i Bêl-droed cerdded yn Sir y Fflint
Published: 19/01/2017
Mae PĂȘl-droed Cerdded â fersiwn arafach oâr gĂȘm hyfryd, wedi cyrraedd Sir y
Fflint diolch i bartneriaeth unigryw rhwng Gap Cei Connah yn y Gymuned, Cynllun
Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Sir y Fflint aâr Gwasanaeth Hamdden. Bydd
sesiynauân cael eu cynnal bob dydd Mawrth rhwng 1.45pm â 2.45pm yng Nghanolfan
Hamdden Glannau Dyfrdwy am bris o ddim ond ÂŁ2. Yn ystod misoedd y gaeaf bydd
gemauân cael eu chwarae mewn neuadd chwaraeon dan do ac yna yn y gwanwyn yn
symud i gaeau 3g awyr agored. Ar gyfer unrhyw un syân dymuno aros am sgwrs ar
ĂŽl y gĂȘm bydd paned a chacen ar gael am bris o ddim ond ÂŁ1.80.
Nod pĂȘl-droed cerdded yn wreiddiol oedd ceisio ailennyn diddordeb unigolion
dros 50 oed mewn chwaraeâr gĂȘm ond erbyn hyn mae pobl o bob oed yn cael eu
hannog i gymryd rhan er mwyn cynyddu eu gweithgaredd corfforol ac ailgynnau
cariad at bĂȘl-droed.
Maeâr rheolau wediâu haddasu fel nad oes unrhyw redeg, ychydig iawn o gyswllt
corfforol a chicio yn hytrach na thafluâr bĂȘl i mewn. Gyda llai o straen ar y
corff a fawr ddim newid cyfeiriad sydyn maeâr gĂȘm yn caniatĂĄu iâr rhai syân
cymryd rhan chwarae yn ĂŽl eu pwysau eu hunain heb ofni cael eu hanafu.
Mae chwaraeâr gĂȘm ar gyflymder cerdded yn ffordd wych o gadwân ffit gan
leihauâr siawns o ddioddef anaf neu ddisgyn ac mae hefyd yn ffordd dda o
gyfarfod pobl newydd.
Meddaiâr Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Hamdden:
âMae PĂȘl-droed Cerdded yn gyfle rhagorol i bob aelod oâr gymuned gymryd rhan yn
un oâr mathau o chwaraeon syân tyfu gyflymaf yn y DU. Ers 2011 mae clybiau pĂȘl-
droed ar hyd a lled y wlad wedi bod yn cynnal sesiynau ac ar hyn o bryd mae âna
dros 400 o glybiau, gyda llawer o gynghreiriauân trefnu rhaglenni gemau
tymhorol. Ein gobaith yw y gallwn annog cymaint o bobl Ăą phosib i chwaraeâr gĂȘm
hyfryd â beth bynnag eu safon, mae croeso i bawb chwarae pĂȘl-droed cerdded.ââ
Meddai Pennaeth Gap yn Gymuned, Lee Breeze:
âRydym wrth ein bodd cael gweithio mewn partneriaeth efo TĂźm Atgyfeiriadau
Ymarfer Corff Sir y Fflint er mwyn cynnig y rhaglen PĂȘl-droed Cerdded yng
Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Mae gallu gwneud hyn fel rhan on rhaglen gymunedol gan fanteisio ar
arbenigedd tĂźm Atgyfeiriadau Ymarfer Corff Sir y Fflint yn bluen yng nghap Gap
yn y Gymuned aâr rhai syân cymryd rhan yn y sesiynau. Edrychwn ymlaen at
ddatblyguâr berthynas eto fyth yn y dyfodol. â
Mae croeso i bawb fynychu felly ewch i chwilio am eich hen bethau pĂȘl-droed a
dewch draw!
Nodyn i olygyddion
Mae croeso i chi anfon ffotograffydd i lansiad swyddogol PĂȘl-droed Cerdded yn
Sir y Fflint ddydd Mawrth 24 Ionawr am 1pm yng Nghanolfan Hamdden Glannau
Dyfrdwy, Queensferry.