Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
‘E²õ²µ²â²Ô’
Published: 14/11/2016
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ymuno â rhaglen ‘E²õ²µ²â²Ô’ Llywodraeth Cymru
trwy ddarparu hyfforddiant a gwaith i bobl sy’n ddi-waith yn y tymor hir.
Sylvain Jacquin yw’r cyntaf yn CNC i fod yn rhan o’r cynllun ‘E²õ²µ²â²Ô’. Mae’n
ymuno â staff CNC yn swyddfa Gogledd Ddwyrain Cymru ym Mwcle, gan weithio fel
cynorthwyydd fflyd a chyfleusterau am wyth wythnos.
Bydd dyletswyddau Sylvain yn cynnwys cynnal gwiriadau iechyd a diogelwch ar y
cerbydau fflyd a’r swyddfeydd a chynnig gwasanaethau cymorth eraill i’r staff.
Mae bron i 200 o bobl eisoes wedi ymuno ag ‘E²õ²µ²â²Ô’ yn Sir y Fflint, gyda 54
ohonynt wedi llwyddo i ddod o hyd i swyddi ar ôl y cynllun.
Erbyn diwedd 2017, nod Llywodraeth Cymru yw cynnig 5,000 o gyfleoedd
hyfforddiant a gwaith i bobl sy’n byw ar aelwydydd lle nad oes neb yn gweithio.
Meddai Mr Jacquin: “Mae’n braf cael y cyfle i ddiweddaru fy sgiliau
cyfrifiadurol mewn amgylchedd swyddfa a chynorthwyo staff CNC yn eu gwaith.
Gobeithio y bydd y lleoliad hwn yn gam gwerthfawr ymlaen tuag at gael gwaith yn
y dyfodol.
“Rydw i hefyd yn mwynhau’r agwedd gymdeithasol o gael gweithio mewn swyddfa –
rhywbeth y mae pobl yn ei gymryd yn ganiataol, o bosibl. Ochr yn ochr â’r
gwaith gwirfoddol rydw i’n ei wneud, rydw i’n gobeithio y bydd y lleoliad hwn
yn esgor ar gyfleoedd gyrfa newydd imi.�
Yn ystod y deunaw mis nesaf, mae CNC yn anelu at ddarparu 30 o leoliadau
‘E²õ²µ²â²Ô’ trwy Gymru. Mae un i fod i ddechrau ym Mangor yn y Flwyddyn Newydd,
gydag eraill ar y gweill ar gyfer Caerdydd a Llandarsi.
Meddai Emyr Roberts, Prif Weithredwr CNC: “Wrth weithio ochr yn ochr â’n staff,
rydw i’n gobeithio y bydd Sylvain – ac eraill fydd yn ymuno â ni yn ystod y
misoedd nesaf – yn elwa ar yr hyfforddiant a’r profiad gwaith.
“Mae’n gyfle i ennill sgiliau newydd a fydd yn eu rhoi mewn gwell sefyllfa i
ddod o hyd i waith tymor hir.�
Meddai Debbie Barker, Mentor Esgyn yn Sir Fflint: “Dyma gyfle gwych, nid yn
unig i Sylvain ond i eraill yn y sir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnig
hyfforddiant gwych, drwy brofiad gwaith, mewn gweithle cyffrous a diddorol.
Dwi’n edrych mlaen at barhau i gyd-weithio.�
Meddai Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant: “Mae’r
cynllun Esgyn yn rhan allweddol o’n gwaith i fynd i’r afael â thlodi yng
Nghymru, drwy gynnig cefnogaeth i rai o’r cartrefi mwyaf difreintiedig.
“Dwi’n falch iawn fod CNC yn cefnogi’r cynllun drwy gynnig hyfforddiant a
phrofiad gwaith fydd yn helpu pobol symud tuag at waith.�
Mae’r rhaglen ‘E²õ²µ²â²Ô’ yn canolbwyntio ar bobl mewn cartrefi lle nad oes neb
wedi gweithio am fwy na chwe mis ac sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf o ran dod o
hyd i waith. Mae’r cynllun ar gael mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru.
Ers ei lansio ym Mawrth 2014, mae’r cynllun wedi cynnig 3,900 o gyfleoedd
hyfforddiant a phrofiad gwaith, gyda 800 wedi symud mlaen i ganfod gwaith.
Or chwith ir dde: Emma Morris - CNC, Jenny Crouch CNC, Tim Jones CNC, Sylvain
Jacques Esgyn, Debbie Barker Mentor Esgyn