ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Plant lleol yn herio’r fyddin!

Published: 16/02/2022

Mae disgyblion Ysgol Sant Ethelwold yn Shotton wedi’u rhoi ar brawf gan y fyddin yn ddiweddar – ac roedden nhw wrth eu bodd!

Mae Forces Fitness, cwmni sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n gweithio’n agos gyda llawer o ysgolion a sefydliadau eraill, wedi treulio’r mis diwethaf yn cynnal eu rhaglen hyfforddiant yn yr ysgol. Mae’r holl sesiynau wedi’u cynnal gan aelodau neu gyn-aelodau o’r lluoedd arfog.

Cafodd disgyblion blynyddoedd 3, 4, 5, a 6 eu herio’n feddyliol ac yn gorfforol, gan weithio ar wella gwytnwch a chymryd rhan mewn heriau adeiladu tîm a chyfathrebu.

Roedd y cyfle hwn yn bosibl diolch i gyllid grant gan Chwaraeon Cymru drwy eu cronfa Addysg y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth. Nod y cyllid yma ydi rhoi cyfle i bob plentyn fanteisio ar weithgareddau corfforol y tu allan i’r diwrnod ysgol. Cysylltodd yr ysgol â Forces Fitness, a drefnodd sesiynau ar gyfer y disgyblion bob dydd Llun ar ôl ysgol. Yn ogystal â’r sesiynau hyn, cynhaliwyd sesiynau taekwondo a dawnsio stryd gan ddarparwyr eraill.

Meddai Paul Oliver, y Pennaeth:

“Rydym ni’n ddiolchgar iawn am y cyllid yma. Roedd sesiynau Forces Fitness yn llawn egni a chyffro ac roedd yr holl blant wedi gwirioni - cafodd bob un ohonynt fudd mawr o’r profiad.

“Roedd gweld rhai o’n disgyblion mwyaf distaw a swil yn dod allan o’u cregyn ac yn cymryd rhan yn yr heriau ymryson, llusgo teiars a’r gemau, ac yn magu hyder a theimlad o werth, yn amhrisiadwy.

“Roedd yn braf gweld gwên, brwdfrydedd, dyfalbarhad ac agwedd benderfynol y disgyblion a diolch i’r cyllid yma roedd modd i ni ddarparu’r cyfleodd hynny.â€

Meddai Sean Molino BCA, Cyfarwyddwr Forces Fitness:

“Rydym ni’n falch iawn o gael darparu ein rhaglen llawn hwyl sy’n canolbwyntio ar iechyd, lles a magu gwytnwch disgyblion Ysgol Sant Ethelwold! Rydym ni’n gobeithio mai dyma ddechrau perthynas wych gydag ysgolion Sir y Fflint. Gorau po fwyaf o hwyl a chyffro y gallwn ni ei ddarparu i’n cenhedlaeth iau!

“Ein nod tymor hir ers y cychwyn cyntaf ydi gwella iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol ymhob rhan o Gymru. Rydym ni wrth ein bodd yn eu hysbrydoli gyda’n tîm o gyn-filwyr cymwys.â€

Gyda sylwadau fel y rhai isod gan y cyfranogwyr, mae’n amlwg bod y rhaglen wedi bod yn llwyddiant ysgubol:

“Gawn ni wneud hyn bob dydd Gwener ar ôl ysgol os gwelwch yn dda? Roeddwn wrth fy modd!â€

“Roedd hynny’n llawer o hwyl, diolch yn fawr i chi. Pump uchel Philip!!â€

“Rydym ni’n cyfathrebu efo’n gilydd i geisio ennill y gemau, mi ges i gymaint o hwyl.â€

“Mi wnes i fwynhau gwneud yr holl weithgareddau a hoffwn gael cyfle i’w gwneud nhw eto.â€

“Mi wnes i ddysgu i beidio â rhoi yn y to os ydych chi’n methu."

St Ethelwolds (2 of 18)small.jpgÌý ÌýÌý

Ìý

St Ethelwolds (4 of 18)small.jpg

Ìý

St Ethelwolds (9 of 18)small.jpg

Ìý

St Ethelwolds (18 of 18)small.jpg

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý