Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cofrestrwch i bleidleisio
Published: 10/02/2022
Peidiwch â cholli eich hawl i bleidleisio a bod yn rhan o etholiadau’r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned sy’n digwydd ddydd Iau, 5 Mai.
Mae pleidleisio hefyd yn sicrhau eich bod yn cael rhoi eich barn ar faterion y dydd a gallai bod ar y gofrestr etholwyr gynnal eich statws credyd.
Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau sydd ar y gorwel, rhaid i'ch enw fod ar y gofrestr etholwyr.Ìý Edrychwch ar y llythyr a anfonwyd i’ch cartref i sicrhau fod pawb sydd â hawl i bleidleisio ar y rhestr.
Mae pawb yn gyfrifol am gofrestru eu hunain - os nad yw eich enw chi neu enw unigolyn arall sy’n byw yn eich cyfeiriad ar y rhestr, yna nid ydynt wedi cofrestru.Ìý
I gofrestru, ewch i . Hefyd, gallwn ddarparu ffurflenni cais papur ar gais. Mae cofrestru yn sydyn ac yn syml. Ewch i: ac argraffu ffurflen gofrestru.Ìý Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaethau Etholiadol ar 01352 702300.
Mae gennych tan 5pm ar ddydd Iau 14 Ebrill i gofrestru i bleidleisio. Hefyd mae gennych tan ddydd Mawrth 19 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy’r post a dydd Mawrth 26 Ebrill i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.
Dywedodd y Swyddog Canlyniadau, Neal Cockerton:Ìý
“Mae’n bwysig eich bod yn edrych ar y wybodaeth a anfonwyd atoch, er mwyn i chi gymryd rhan yn yr etholiadau sydd ar y gorwel.Ìý Ni ddylech gymryd yn ganiataol y byddwch yn gallu pleidleisio oherwydd eich bod wedi cofrestru ar gyfer pethau eraill megis Treth y Cyngor.â€
Gallwch bleidleisio yn yr etholiadau Llywodraeth Leol os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio yn Sir y Fflint ac y byddwch yn 16 oed neu hyn ar ddydd Iau 5 Mai, ac yn:Ìý
- Ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig;Ìý
- Ddinesydd o'r Gymanwlad sydd â chaniatâd i aros yn y DU neu nad ydych angen caniatâd i aros yn y DU; neuÌý
- Dinesydd gwlad yr Undeb Ewropeaidd, neu ddinesydd tramor cymwys sydd â chaniatâd i ddod neu i aros yn y DU, neu nad ydych angen caniatâd o’r fath.
Am ragor o wybodaeth, ewch iÌý.
Ìý