Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Published: 14/12/2021
Wrth i ni agosĂĄu at dymor yr wyl, rydyn niân galw ar ein preswylwyr i ddal ati gydaâu hymdrechion âgwychâ i ailgylchuâr Nadolig hwn.ĚýĚý
Gyda 94% ohonom yn ailgylchuân rheolaidd, mae Cymruân genedl o Ailgylchwyr Gwych. Ni ywâr drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn niân cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un.
Yn draddodiadol, y Nadolig ywâr adeg oâr flwyddyn pan gaiff mwy o wastraff ei greu gartref. Oâr holl fwyd ychwanegol rydyn niân ei brynu, iâr mynydd o ddeunydd pacio a ddaw yn sgil prynu anrhegion Nadolig, maeân gyfle gwych i wneud yn siwr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.
Dyna pam rydyn niân cefnogiâr ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych y Nadolig hwn.
Dyma Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks, yn egluro:
âMae dinasyddion Cymruân dangos eu bod yn WYCH am ailgylchu, a dylem oll fod yn falch oân hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn niân galw ar einĚý preswylwyr i ddal ati gydaâr gwaith da dros y Nadolig a helpu i gael Cymru i Rif 1, yn enwedig gan mai ar yr adeg hon oâr flwyddyn rydyn niân defnyddio ac yn prynu llawer mwy nag arferâ.Ěý
âGwyddom fod pobl yng Nghymruân malio am ddiogelu ein gwlad hardd ac mae ailgylchuân chwarae rhan allweddol mewn taclo newid hinsawdd. Dyma weithred syml y gall pawb ei gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawnâ.
Dilynwch y cynghorion gwych hyn i fod yn Ailgylchwr Gwych y Nadolig hwn:Ěý
- Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymruân darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwydydd dros ben na ellir eu bwytaân ddiogel yn nes ymlaen! A daliwch ati i ailgylchu gwastraff bwyd arall dros gyfnod y Nadolig hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau a hen fara.Ěý
- Concrwch eich cardbord y Nadolig hwn. Gallwch ailgylchuâr holl gardbord a ddaw yn eich danfoniadau ar-lein. Tynnwch y tâp pacio a fflatio unrhyw focsys, neu gallwch eu torriân ddarnau llai i arbed lle yn eich bag, bin neu focs ailgylchu. Ar Ă´l y Nadolig, ailgylchwch eich cardiau i gyd, ond cofiwch dynnu unrhyw fathodynnau, ffoil, llwch llachar neu rubanauân gyntaf, gan na ellir ailgylchuâr darnau hyn.Ěý
- Gellir ailgylchuâr rhan fwyaf o eitemau plastig a geir o amgylch y cartref, yn cynnwys poteli diodydd, poteli nwyddau glanhau, a photeli nwyddau ymolchi. Gwagiwch, rinsiwch a gwasgwch nhw cyn eu hailgylchu. Gadewch unrhyw gaeadau, labeli, pigau arllwys a chwistrelli arnynt, caiff y rhain eu tynnu yn ystod y broses ailgylchu. Gallwch hefyd ailgylchuâr tybiau plastig mawr o siocled a losin maeâr rhan fwyaf ohonom yn eu mwynhau dros y Nadolig!Ěý
- Peidiwch anghofio ffoil y Nadolig hwn. Ailgylchwch eich casys mins peis ffoil gwag ac unrhyw ffoil a gafodd ei ddefnyddio i goginio dros y Nadolig, cyn belled ââi fod yn lân, heb staen a heb fwyd, saim neu olew arno. Rinsiwch dybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu hailgylchu.
- Gellir ailgylchu caniau bwyd a diod metel. Rhowch rinsiad sydyn iâr caniauân gyntaf.
- Mae papur lapio yn anodd ei ailgylchu, ond mae yna ddewisiadau amgen ecogyfeillgar iâw cael, fel papur brown a brethyn lapio, a gellir eu haddurno gyda rhubanau Nadoligaidd, aâr peth da amdanyn nhw yw y gellir eu defnyddio eto'r flwyddyn nesaf!
Os ydych chiân ansicr oâr hyn y gallwch â ac na allwch â ei ailgylchu, gallwch ddefnyddio .Ěý
I ddysgu mwy am ffeithiau ac awgrymiadau â12 dydd y Nadoligâ Cymru yn Ailgylchu, ewch draw iâr wefan neu ymunwch ââr sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ByddWychAilgylcha a #ByddWychDrosYDolig.
Ěý