ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno opsiwn i dalu am barcio heb arian

Published: 09/12/2021

Parking small.jpgErs cyflwyno ffioedd am barcio, yr unig ddull o dalu am barcio yn Sir y Fflint ydi defnyddio arian mân mewn peiriannau talu ac arddangos.Ìý

Er mwyn gwella profiad y cwsmer, mae’r Cyngor eisiau cyflwyno dewis o dalu heb arian fel dewis ychwanegol ar beiriannau talu ac arddangos ac i gyd-fynd â’r dull talu heb arian.Ìý

Bydd gofyn i Aelodau'r Cabinet gefnogi hyn pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Rhagfyr.Ìý

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

“Gydag ymrwymiad y Cyngor i ddatrysiadau digidol, fe ddylem ni fod yn edrych ar ddewis heb arian fel datrysiad mwy cyfleus a hyblyg i dalu.Ìý

“Un datrysiad i dalu sydd yn cael ei fabwysiadu’n eang trwy gydol y diwydiant parcio, yw dewis heb arian.Ìý Mae’r dewis yma eisoes wedi cael ei gyflwyno ym meysydd parcio awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru ac mae’n cynnig dull cyflym a diogel o dalu am barcio dros y rhyngrwyd, SMS, ffôn neu ap ar ffôn clyfar.â€

Bydd y dewis yma’n lleihau dibyniaeth ar y peiriant talu ac arddangos, gan sicrhau bod yna opsiwn hygyrch i dalu ar gael bob amser.Ìý Gellir talu yn defnyddio cerdyn credyd/debyd neu Apple Pay neu Google Pay.

Gellir ymestyn amser parcio ar unrhyw adeg o unrhyw le, gan olygu nad oes rhaid mynd yn ôl at y peiriant talu ac arddangos.Ìý

Ìý