Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae arnom angen eich barn ar y fersiwn ddiweddaraf o Strategaeth Ddigidol Sir y Fflint
Published: 01/11/2021
Mae Cyngor Sir Y Fflint yn gwahodd preswylwyr lleol i leisio eu barn am ein Strategaeth Ddigidol newydd ac arloesol – gan adeiladu ar ein cyflawniadau cadarnhaol hyd yma ar ein taith ddigidol.Ìý
Mae’r Strategaeth wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu ein cynlluniau uchelgeisiol ac rydym wedi datblygu fersiwn ryngweithiol o’r strategaeth i chi ei hadolygu cyn i chi roi eich adborth i ni.Ìý Gellir ei gweld .Ìý Os hoffech adolygu’r ddogfen strategaeth lawn, mae copi i’w weld ein tudalen we Strategaeth Ddigidol.
Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ar 1 Tachwedd a bydd yn dod i ben am hanner nos ddydd Llun 31 Ionawr 2022. Mae’r arolwg ar gael ar-lein .Ìý
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Reoli Corfforaethol ac Asedau:Ìý
Ìý“Rwyf yn falch ein bod yn symud ymlaen â’n rhaglen ddigidol, gan ddod â’n preswylwyr gyda ni ar y daith gyffrous hon.Ìý Mae hwn yn gynllun uchelgeisiol sy’n nodi sut y byddwn yn gwella ac yn symleiddio ein gwasanaethau.Ìý
Ìý“Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn unig, mae’n ymwneud â newid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau i roi’r profiad gorau i bawb.Ìý Mae hyn yn cynnwys dod â phreswylwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol gyda ni.Ìý Ìý Fe aethom ati i lansio ein newydd ym mis Awst oherwydd rydym eisiau i bawb gael blas ar bwer y byd digidolÌý - i wella potensial a thwf y Sir ac atal arwahanrwydd cymdeithasol.â€ÌýÌý
Os na allwch chi gael mynediad i’r dogfennau ar-lein, gallwch ymweld ag un o’n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu, neu lyfrgell leol a defnyddio cyfrifiadur cyhoeddus yn rhad ac am ddim i weld y strategaeth a llenwi’r arolwg.Ìý Mae staff yn ein Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu hefyd ar gael i’ch cefnogi i lenwi’r arolwg ar-lein os bydd angen help arnoch.
Ìý