Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn amddiffyn apêl cynllunio yn llwyddiannus
Published: 29/09/2021
Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi amddiffyn apêl diweddar yn erbyn ei benderfyniad i osod Rhybudd Gorfodi ar dir yn Nercwys yn llwyddiannus.Ìý
Mae’r tir yn Nhy Melyn, Nercwys wedi bod yn destun trafodaethau cynllunio ers 2016, a chyhoeddwyd Rhybudd Gorfodi ym mis Medi 2020 er mwyn cywiro nifer o achosion o dorri amodau cynllunio.ÌýÌý
Nododd swyddogion cynllunio Sir y Fflint fod adeiledd pren wedi ei adeiladu a nifer o byst ffens wedi eu codi heb y caniatâd cynllunio priodol, ac ymddengys fod rhan o wrych wedi ei waredu.Ìý Mae eitemau ar y tir sydd angen eu gwaredu hefyd, ac mae’r rhain i gyd yn ffurfio rhan o’r rhybudd.Ìý
Gofynion y Rhybudd Gorfodi oedd:Ìý
- Gwaredu’r adeilad pren gyda tho ar oleddf oddi ar y TirÌý
- Gwaredu’r pyst ffens pren oddi ar y Tir, yn ogystal â’r holl ddeunyddiau adeiladu a’r rwbel, ac adfer y Tir i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn y torrwyd yr amodau cynllunioÌý
- Gwaredu’r tanc septig, yr holl ddeunyddiau adeiladau a’r garafán oddi ar y TirÌý
Ystyriodd yr arolygydd a benodwydÌý gan Weinidogion Cymru yr holl faterion a godwyd i gefnogi’r apêl, ond y canlyniad yw y dylid cynnal y rhybudd gorfodi.ÌýÌý
Dywedodd y Cynghorydd Christopher Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint:Ìý
Ìý“Unwaith eto, roedd penderfyniad y Cyngor i gyhoeddi Rhybudd Gorfodi yn benderfyniad cywir.Ìý Bydd y rhybudd yn sicrhau fod unrhyw adeiladau ac adeileddau a godwyd heb ganiatâd cynllunio yn cael eu gwaredu a’r tir yn cael ei glirio o unrhyw weddillion.Ìý Mae’n glir fod y penderfyniad a gymerwyd gan yr arolygydd yn dangos fod Sir y Fflint yn gywir i gyhoeddi Rhybudd Gorfodiâ€ÌýÌý
Ìý