Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgol leol yn croesawu dysgu yn yr awyr agored
Published: 29/09/2021
Ìý
Staff a disgyblion Ysgol Derwenfa Coed-Llai yn croesawu dysgu yn yr awyr agored yr hydref hwn.Ìý
Roedd yr ysgol gyfan wedi mwynhau diwrnod hydrefol gydag arbenigwyr dysgu yn yr awyr agored Polly a Carolyn.Ìý Roedd pob plentyn o’r feithrinfa i flwyddyn 6 wedi defnyddio deunyddiau naturiol i chwarae, creu a dysgu.Ìý
Mae staff Ysgol Derwenfa wedi manteisio ar ddysgu yn yr awyr agored yn dilyn sesiynau hyfforddiant ysbrydoledig gydag ymarferwyr dysgu yn yr awyr agored lleol yn yr ysgol, a bellach yn ei gyflwyno i ddisgyblion gyda diwrnod dysgu yn yr awyr agored â thema Hydrefol.Ìý
Mae defnyddio’r awyr agored fel ystafell ddosbarth yn cynnwys manteision cyfannol diddiwedd i blant a staff.Ìý Mae staff ysgol yn mwynhau hyfforddiant oedd wedi dechrau yn ôl ym mis Mehefin a bellach maent yn teimlo’n ysbrydoledig i ddefnyddio’r awyr agored boed law neu hindda.Ìý Mae eu syniadau a gwybodaeth ar sut y gallant ddefnyddio gweithgareddau ynÌýseiliedig ar natur, archwilio a chwarae yn cael eu datblygu gan gynnig llawer o ddeilliannau dysgu cadarnhaol i’r disgyblion a pha mor dda mae’n
cysylltu â’r cwricwlwm.Ìý ÌýMae pawb sy’n cymryd rhan yn mwynhau defnyddio eitemau naturiol boed yn frigau ar gyfer rhifedd a dail ar gyfer llythrennedd, gall pob elfen fod yn drawsgwricwlaidd ac yn fuddiol ar gyfer lles.Ìý
Mae cysylltu â natur yn bwysig iawn ar gyfer dealltwriaeth plant o’r gofod awyr agored, i ofalu am natur a’r amgylchedd a chysylltu’n llwyddiannus â phynciau ystafell ddosbarth mewn ffyrdd hwyliog a chymryd rhan sy’n gadael atgofion a phrofiadau dysgu o ansawdd uchel.Ìý
Dywedodd y Pennaeth Mr Andrew Jones:Ìý
Ìý“Yn dilyn y cwrs hyfforddiant awyr agored gan Polly Snape a Carolyn Burkey yn ôl ym mis Mehefin, rydym yn gyffrous a brwdfrydig i ddatblygu ein hardal awyr agored a’r defnydd cyffredinol o’r awyr agored.Ìý Rydym yn hynod o lwcus i gael tir bendigedig a gyda eu cymorth nhw rydym yn dysgu am yr adnoddau naturiol a sut y gallwn wella ein gwersi a chynnwys y
cwricwlwm newydd drwy ddysgu yn yr awyr agored. Fel rhan o’n “cyllid ysgol fachâ€�, rydym yn falch fod Polly a Carolyn wedi dychwelyd iÌýgyflwyno’r sesiwn hydrefol hwn i’r ysgol gyfan a darparu’r sesiwn hyfforddiant staff hwn ar ôl ysgol.â€�
Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:Ìý
Ìý“mae’n galonogol iawn gweld plant Sir Y Fflint yn mynd allan i’r awyr agored.Ìý Mae manteision lles ac addysgol dysgu yn yr awyr agored yn ddiddiwedd.Ìý Mae’r ysgol yn gwneud yn fawr o’r cyfle hwn i uwchsgilio’r staff a chynnwys y plant yn y sesiynau hyn, sefydlu dyfodol o ddysgu ysbrydoledig ar dir yr ysgol.Ìý Ìý Rwy’n siwr eu bod yn cael cymaint o hwyl yn defnyddio’r deunyddiau naturiol i ddysgu a chwarae.â€�ÌýÌý
Ìý