ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Haf mwyaf llwyddiannus SHEP hyd yma yn ysgolion Sir y Fflint!

Published: 11/08/2021

Mae dros 160 o blant a phobl ifanc 5-12 oed wedi elwa o’r rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) yr haf hwn!Ìý

Mae chwe ysgol wedi cadw eu drysau ar agor am dair wythnos gyntaf gwyliau’r ysgol, diolch i staff ymroddgar sydd wedi cydlynu rhaglen gynhwysfawr gydlynedig o weithgareddau i’r plant.

Mae Ysgol Treffynnon ac Ysgol Gynradd Queensferry, Glannau Dyfrdwy wedi cyflwyno rhaglenni yn llwyddiannus yn y gorffennol ac mae Ysgol Maesglas, Ysgol Maesglas Greenfield, Bryn Garth, Penyffordd, Ysgol Bryn Gwalia, yr Wyddgrug ac Ysgol Uwchradd Cei Connah wedi cyflwyno’r haf hwn am y tro cyntaf.Ìý

Bu i’r plant oedd yn mynychu fwynhau brecwast, byrbryd a chinio poeth iach wedi eu darparu bob dydd gan Arlwyo NEWydd.Ìý Mae Bwyd a Hwyl SHEP yn canolbwyntio ar addysg maeth, ac yn annog plant i flasu bwydydd newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau bwyd ymarferol trwy’r rhaglen.Ìý

Bu i Arweinydd Cyngor Sir y Fflint y Cynghorydd Ian Roberts a’r Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Claire Homard ymweld â dwy ysgol oedd yn darparu SHEP:

yn Ysgol Maes Glas

SHEP (2 of 16).jpgÌý Ìý

Ìý

Ìý
SHEP (7 of 16).jpg SHEP (8 of 16).jpg

Ìý

ac Ysgol Uwchradd Cei Connah.ÌýÌý

SHEP (13 of 16).jpgÌý Ìý ÌýÌý SHEP (14 of 16).jpg

Ìý

Dywedodd y Cynghorydd Roberts:

“Mae SHEP wedi bod yn boblogaidd iawn yr haf hwn sy’n atgyfnerthu’r effaith gadarnhaol y gall gweithio mewn partneriaeth ei gael yn ein cymunedau. Nid yn unig bod y rhaglen wedi rhoi cyfleoedd i blant ddysgu a bod yn actif dros y gwyliau, ond mae nifer wedi gwneud ffrindiau newydd sydd mor bwysig i'w lles, yn arbennig ar ôl y 18 mis diwethaf.

“Edrychwn ymlaen at ehangu Bwyd a Hwyl SHEP i fwy o ysgolion yn Sir y Fflint yn 2022.â€

Dywedodd Claire Homard:

“Mae Hamdden Aura wedi chwarae rhan allweddol i gyflwyno gweithgareddau chwaraeon strwythuredig a gemau rhyngweithiol ym mhob ysgol. Cyflwynwyd cyfanswm o 17 o gampau gwahanol gyda staff Datblygu Chwaraeon yn hyfforddi bob sesiwn. Roedd osgoi’r bêl, tenis a rygbi yn boblogaidd iawn eleni! Mae bob hyfforddwr wedi mwynhau’r sesiynau'n fawr ac yn hapus iawn gydag ymgysylltiad y plant.Ìý

“Roedd yr amrywiaeth o weithgareddau cyfoethogi oedd ar gael i'r plant eleni yn ardderchog ac yn cynnwys gwneud lampau lafa o boteli a ailgylchwyd, dreamcatchers, cylchoedd allweddi pren a phlaciau enwau graffiti ymysg eraill. Mae plant wedi cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar, dawns a gweithdai drymio. Roedd rhywbeth i bawb a digon o gyfleoedd i’r plant roi cynnig ar rywbeth newydd!

"Hoffwn longyfarch a dweud ‘da iawn' wrth bawb oedd yn rhan o wneud y rhaglen Bwyd a Hwyl SHEP yr un mwyaf llwyddiannus erioed!â€Ìý

Nid oedd rhieni yn gallu ymuno â’u plant ar y safle i gael prydau eleni oherwydd cyfyngiadau Covid. Fodd bynnag, i annog teuluoedd i gymryd rhan yn y gweithgareddau coginio gyda’u plant yn y cartref, bu i Arlwyo NEWydd ddarparu bocsys bwyd i bob plentyn ar ddiwrnod olaf y cynllun yn cynnwys chwe cherdyn rysáit iach a blasus, ynghyd â’r holl gynhwysion.

Ìý