Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cyngor yn datblygu dyfodol pobl drwy wneud buddsoddiad mawr mewn tai
Published: 25/10/2016
Maeâr datblygwr cenedlaethol, Wates Residential, wedi rhoi hwb i yrfaoedd
ceiswyr swyddi lleol fel rhan o raglen Cyngor Sir y Fflint i adeiladu 500 o
gartrefi newydd sbon ledled y sir.
Maer fenter hyfforddi wedi rhoi cyfle i 11 o bobl leol gymryd rhan yn rhaglen
genedlaethol âBuilding Futuresâ Wates, gan nodi milfed cofrestriad y cwrs
hyfforddi dwys syân para pythefnos.
Cafodd ymgeiswyr eu recriwtio drwy Raglen Esgyn Llywodraeth Cymru a reolir yn
Sir y Fflint gan Gymunedauân Gyntaf ac syân gweithio gyda phobl syân wynebuâr
rhwystrau mwyaf i gael eu cyflogi ac sydd wedi bod allan o waith am chwe mis
neu fwy.
Cynhelir y rhaglen hyfforddi yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ac maeân
cynnwys sesiynau masnach sgiliau adeiladu, gan gynnwys gwaith coed, plymio a
theilsio, yn ogystal â gweithdai CV a chyfweliad gyda Wates Residential ai
bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi. Derbyniodd bob ymgeisydd dystysgrif mewn
seremoni wobrwyo yn Siambr Cyngor Tref y Fflint.
Yn ystod y cwrs ymunodd yr ymgeiswyr â Wates hefyd ar safle hen Ysgol Custom
House yng Nghei Connah ble maer datblygwr yn adeiladur cartrefi cyntaf o dan
Bartneriaeth Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP).
Mae darparu âBuilding Futuresâ yn ffurfio rhan o rĂ´l Wates Residential fel
datblygwr arweiniol ar gyfer SHARP, a fydd yn gweld 500 o gartrefi newydd yn
cael eu creu ledled Sir y Fflint dros y pum mlynedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
âMae Cyngor Sir y Fflint yn hwyluso mwy o brentisiaethau newydd yn y sir, yn
arbennig ym maes adeiladu. Mae adeiladu mwy o dai wedi bod yn flaenoriaeth i
ni dros y pedair blynedd diwethaf â gan gynyddu buddion prosiectau cyfalaf
megis ein rhaglenni tai lle bydd ÂŁ100m yn cael ei fuddsoddi dros y 5 mlynedd
nesaf. Rydym yn gweithio gyda Wates i ddarparuâr rhaglen hon â y cynllun tai
cyngor newydd cyntaf mewn cenhedlaeth.â
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor
Sir y Fflint, a gyflwynodd y gwobrau:
âAr ran Cyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch am gymryd y cam
cyntaf a chwblhauâr rhaglen hon. Rydych i gyd wedi bod yn bresennol bob dydd
ac wedi cyflawnir cymwysterau. Mae angen pobl fel chi arnom ac mae llawer o
gyfleoedd ar gael i chi ddatblyguâr hyn yr ydych wediâi gyflawni hyd yma. Chi
ywâr arloeswyr â bydd mwy o gyrsiau fel hyn yn cael eu cynnal yn y dyfodol i
bobl yn yr ardal sydd naill aiân ddi-waith neu syân dymuno newid gyrfa.â
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential: âDrwy SHARP, mae
Cyngor Sir y Fflint yn gosod y safon ar gyfer buddsoddiad mawr mewn tai a rhan
fawr o hyn yw ehangder y cyfleoedd y maen ei greu i bobl leol.
âFel partner datblyguâr cyngor rydym wedi bod yn gweithioân agos dros y
flwyddyn ddiwethaf i nodiâr ffyrdd y gallwn gael effaith bositif ar y sir ac
mae darparu âBuilding Futuresâ ar y cyd yn un enghraifft on hymdrechion i
gyflawnir ymrwymiad hwn.â
Cafodd Wates ei filfed cofrestriad yn âBuilding Futuresâ drwy fenter hyfforddi
Sir y Fflint ers lansior rhaglen flaenllaw yn 2005. Caiff ei achredu gan y
Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh). Mae âBuilding Futuresâ yn rhoi
cymhwyster FfCCh Lefel 1 mewn Crefftau Adeiladu a chofrestriad CSCS i ymgeiswyr
iâw helpu i sicrhau hyfforddiant a phrofiad gwaith ar safleoedd adeiladu yn y
dyfodol.
Llun: Yr 11 ymgeisydd llwyddiannus gyda Su Pickerill, Rheolwr Buddsoddiad
Cymunedol ar gyfer Grwp Wates (yn sefyll ar y dde) ac yn eistedd or chwith ir
dde: Mick Cunningham â Wates, Debbie Barker â Mentor Esgyn, Nia Parry -
Cymunedau yn Gyntaf, Cyngh. Derek Butler, Cyngh. Aaron Shotton a Darren
Eccleston, Cyn Gyfarwyddwr Adeiladu yn Wates Residential