ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi penodiad Prif Weithredwr newydd

Published: 03/08/2021

Neal Cockerton (7 of 8).jpgMae Neal Cockerton wedi cael ei benodi fel Prif Swyddog Gweithredol newydd Sir y Fflint.Ìý

Bydd aelod uchel ei barch o dîm prif swyddog presennol Sir y Fflint, Neal, yn ymgymryd â’i rôl newydd ar 1 Tachwedd 2021.Ìý

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

“Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Neal Cockerton fel Prif Weithredwr newydd Sir y Fflint.ÌýÌý

“Mae Neal wedi datblygu enw da yn y maes gwasanaethau cyhoeddus.Ìý ÌýMae’n unigolyn gweithgar a llawn cymhelliant sy’n ymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i drigolion Sir y Fflint.Ìý Mae gennyf hyder yng ngallu, cymhelliant a gweledigaeth Neal ac rwy’n siwr y bydd yn parhau i ddatblygu gwaith Cyngor Sir y Fflint.Ìý ÌýEdrychaf ymlaen at weithio’n agos gydag ef ar y problemau sy’n wynebu ein sir.Ìý

“Hoffwn hefyd diolch i bob aelod o’r panel recriwtio am eu hamser a’u trylwyredd wrth iddynt benderfynu argymell penodi Neal fel Prif Weithredwr.�

Ymunodd Neal â’r Cyngor yn 2003, ac ers hynny, mae wedi gweithio mewn sawl swydd uwch o fewn y Cyngor yn ymdrin ag ystod eang o wasanaethau rheng flaen, ac am y tair blynedd diwethaf, mae wedi bod yn arwain Portffolio Tai ac Asedau’r Cyngor.Ìý Mae ganddo hanes blaenorol cryf o arweinyddiaeth gweithredol a strategol. Fel aelod o dîm y Prif Swyddog, mae wedi chwarae rôl allweddol yn cyflwyno newidiadau cadarnhaol a moderneiddio’r sefydliad.Ìý

Meddai Neal Cockerton:

“Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy mhenodi fel Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir y Fflint.Ìý Mae’n Gyngor blaengar ac uchelgeisiol sydd â llawer i’w gynnig, rwy’n hynod falch o’r gwaith yr wyf eisoes wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud i gymunedau Sir y Fflint.â€�Ìý

Gan weithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol ac ar draws Cymru, mae Neal wedi cyfrannu at lwyddiant nifer o brosiectau arloesol a chydweithredol.Ìý Dyma rai enghreifftiau nodedig: creu ysgolion newydd megis Ysgol Treffynnon, cartrefi preswyl i bobl hyn megis Marleyfield House; darparu tai fforddiadwy a chymdeithasol newydd; datblygu strategaeth gwastraff y Cyngor a’r ganolfan brosesu gwastraff bwyd Biogen yn Llanelwy; prosiectau creadigol ac arloesol i gefnogi’r digartref a’r rheiny sy’n byw mewn tlodi; darparu adran Sir y Fflint o Lwybr Arfordir Cymru; rhesymoli asedau eiddo’r Cyngor gan gynnwys dymchwel Neuadd y Sir ac ail-leoli gwasanaethau i Dy Dewi Sant, Ewlo.ÌýÌý

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers:Ìý Ìý

“Mae ymrwymiad a chymhelliant Neal, ynghyd â’i wybodaeth a’i brofiad, wedi derbyn cydnabyddiaeth drwy ei benodiad fel Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir y Fflint.Ìý

“Dymunaf bob llwyddiant i Neal yn y rôl bwysig honâ€�.ÌýÌý

Bydd Neal yn cymryd yr awenau gan Colin Everett pan fydd yn rhoi gorau i’r swydd ddiwedd mis Hydref.ÌýÌý

Meddai Prif Weithredwr presennol y Cyngor, Colin Everett, sydd wedi bod yn y swydd ers amser maith:

“Ni allaf feddwl am arweinydd gwasanaethau cyhoeddus mwy ymroddedig i’m holynu. Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda Neal dros y tri mis nesaf i drosglwyddo’r gwaith cyn i mi roi’r gorau i’m rôl fel Prif Weithredwr."

Ìý