Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn llwyddo i wrthod apêl cynllunio arall
Published: 22/07/2021
Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi amddiffyn apêl arall yn erbyn ei benderfyniad i osod Rhybudd Gorfodi ar eiddo yn Afonwen yn llwyddiannus.
Mae’r Cyngor wedi derbyn nifer o gwynion fod y tir o amgylch yr eiddo o’r enw Tangnefedd yn cael ei ddefnyddio i storio hyd at 60 o gerbydau sydd oll yn dadfeilio i ryw raddau yn ogystal â deunydd adeiladu, peirianwaith a gwastraff cartref cyffredinol.Ìý
Nododd swyddogion cynllunio Cyngor Sir y Fflint fod y tir yn cael effaith niweidiol ar amodau byw trigolion cyfagos ac ar yr ardal gyfagos, ac o ganlyniad ceisiwyd gweithio gyda’r tirfeddiannwr i gytuno ar gynllun gweithredu er mwyn gallu tacluso’r tir.Ìý Ni chafodd y tir ei glirio erbyn o fewn y llinell amser benodedig a chyflwynwyd Rhybudd Adran 215 i’r tirfeddianwyr ar 17 Ionawr 2020. Gofynion y Rhybudd Gorfodi oedd:Ìý
- ÌýGwaredu pob cerbyd anaddas i’r ffordd fawr, yn ogystal â sgrap, darnau o gerbydau, a thrugareddau mecanyddol cyffredinol.Ìý
- ÌýGwaredu’r holl bibelli plymio, bwyleri / unedau cynhesu, peiriannau adeiladu a deunydd adeiladu.Ìý
- ÌýGwaredu’r holl boteli nwy, seilwaith llwyfan metel, tarpolin, cypyrddau ffeilio a sbwriel cartref.Ìý
Cyflwynodd y perchnogion apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio.Ìý Fodd bynnag, cytunodd yr Arolygydd â rhesymau’r Cyngor dros gyflwyno’r Rhybudd Gorfodi a chafodd yr apêl ei wrthod ond gydag estyniad i’r llinell amser hyd at chwe mis, gan roi mwy o amser i’r tirfeddiannwr gydymffurfio â’r Rhybudd.Ìý
Dywedodd Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Chris Bithell:Ìý
“Unwaith eto, mae’r Cyngor wedi gwrando ar bryderon trigolion lleol ac wedi gweithredu ar y pryderon hynny.Ìý Mae hyn yn anfon neges glir nad yw caniatáu i sbwriel, sgrap a gwastraff gasglu – hyd yn oed os yw hynny ar eich tir eich hun – yn dderbyniol pan fydd yn effeithio ar eich cymdogion.Ìý
“Mae’r penderfyniad llwyddiannus hwn gan yr Arolygydd Cynllunio yn dangos fod Sir y Fflint yn iawn eto i ystyried pryderon trigolion lleol, ac i weithredu’n unol â hynny.â€Ìý
Ìý