Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhoi Sir y Fflint ar y map
Published: 25/06/2021
Mae’n swyddogol, mae Sir y Fflint ar y map ac mae wedi ei chydnabod yng Ngwobrau Enghraifft Batrymol GeoPlace 2021.
Mae llawer ohonom yn cysylltu mapio â chynllunio neu’r amgylchedd, ond mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol bellach yn golygu y gellir lleoli pob cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig yn fanwl drwy rif cyfeirnod unigryw (UPRN), yn debyg i rif Yswiriant Gwladol sy’n unigryw i bob unigolyn.Ìý
Mae Gwobrau Enghraifft Batrymol GeoPlace yn cydnabod Cynghorau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig sy’n darparu ac yn defnyddio data o ansawdd da ar gyfeiriadau a strydoedd. Gall hyn fod i gynllunio a darparu prosiectau trawsnewid mawr sy’n effeithio ar ardaloedd daearyddol mawr neu brosiectau bach sy’n effeithio ar grwpiau penodol o bobl.Ìý
Gall data gwych ar gyfeiriadau a strydoedd cywir wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.Ìý
Yn Sir y Fflint fe wnaethom gefnogi pobl leol drwy’r sefyllfa Covid-19 drwy:
- Ddyrannu gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain, os nad oeddent yn gallu mynd allan neu os oeddent yn gwarchod;
- Cefnogi pobl â dementia a’u teuluoedd a gofalwyr drwy ddarganfod digwyddiadau a gwasanaethau sy’n deall dementia;
- Mewn partneriaeth â Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, fe wnaethom roi map i drigolion er mwyn iddynt allu dynodi a chlicio ar wasanaethau lleol megis gwasanaeth danfon bwyd, fferyllfeydd a gwasanaethau iechyd meddwl.
Wrth gyhoeddi gwobr Canmoliaeth Uchel Sir y Fflint, dywedodd GeoPlace LLP:
“Mae’r tîm yn Sir y Fflint wedi gweithio ar lawer o brosiectau sy’n darparu gwasanaeth gwell i drigolion a staff, gan ddefnyddio’r UPRN i greu map i dynnu sylw at wasanaethau lleol mewn ymateb i Covid-19 ... Maen nhw hefyd wedi gweithio i leoli data’n gywir i ddarparwyr gofal a map hygyrch i roi gwybodaeth am Sefydliadau sy’n Deall Dementia.“
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
“Mae bod yr unig Gyngor yng Nghymru a gydnabuwyd yn y categori hwn, yn erbyn siroedd llawer mwy o Loegr, yn gyflawniad sylweddol i Sir y Fflint.Ìý Ìý
Ìý“Rydw i’n falch o’r ffordd rydym wedi defnyddio technoleg fodern, mewn ffordd ymarferol iawn, i helpu i gefnogi ein trigolion a’n cymunedau.ÌýÌý
“Ar ôl gweld y manteision yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’n sicr yn rhywbeth rydym wedi ymrwymo i’w ddatblygu a byddwn yn edrych i gyflwyno datrysiadau mapio digidol ar draws ystod o wasanaethau gwahanol y cyngor.â€
Map o leoliadau sy’n deall dementia ac arweiniad y gellir ei lawr lwytho:
Ìý