Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor Sir y Fflint yn codi baner y Lluoedd Arfog i gefnogi Wythnos y Lluoedd Arfog
Published: 23/06/2021
Bydd Diwrnod Milwyr wrth gefn yn cael ei nodi ar 23 Mehefin yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog (21 Mehefin – 26 Mehefin). Mae’r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn ei wneud i’r Lluoedd Arfog, i’n cymuned, ein sefydliad a’n cenedl. Rydym yn falch o gefnogi Diwrnod Milwyr Wrth Gefn.
Mae milwyr wrth gefn yn rhoi o’u hamser i wasanaethu yn y Lluoedd Wrth Gefn, gan gydbwyso eu bywyd sifilaidd gyda gyrfa filwrol i sicrhau y byddent yn barod i wasanaethu fel rhan o’r lluoedd arfog pe bai eu hangen ar eu gwlad.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd ÌýJoe Johnson;
“Mae ein gweithwyr sy’n filwyr wrth gefn yn chwarae rhan hanfodol yn ein Lluoedd Arfog ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i weithrediadau yn y DU a thramor. Mae ein milwyr wrth gefn i gyd yn gwneud swydd wych wrth wasanaethau'r genedl, ac mae'n fraint cael cyfle i ddathlu eu hymdrechion. Mae’r profiad, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae cyn-filwyr a milwyr wrth gefn wedi’u cael yn y fyddin ac yn ei roi i’r Cyngor yn amhrisiadwy.
"Dyfarnwyd Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn i’r Cyngor ym mis Tachwedd 2019. Mae’r wobr, yr uchaf yn y cynllun, yn cydnabod ymrwymiad a chefnogaeth barhaus y Cyngor ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog, sy’n cynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd i sicrhau nad ydynt yn derbyn anfantais annheg yn y gweithle.â€
Ìý
Ìý
NODYN I'R GOLYGYDDION
Yn y llun uchod (chwith i'r dde):
Cyng. Mared Eastwood,ÌýIs-gadeirydd Cyngor Sir Sir y Fflint
Cyng. Hilary McGuill
Andy Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, Amgylchedd ac Economi
Colin Everett,ÌýPrif Weithredwr
Gareth Owens,ÌýPrif Swyddog Llywodraethu
Cyng Ian Dunbar
Cyng Joe Johnson,ÌýCadeirydd Cyngor Sir Sir y Fflint
Mrs. Sue Johnson