Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae amser yn prinhau! Sesiynau Gwybodaeth a Chymorth ar Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS)
Published: 11/06/2021
Mae amser yn prinhau i ddinasyddion yr UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu’r Swisdir, a’u teuluoedd geisio i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog (EUSS) erbyn 30 Mehefin 2021! Â
Os nad yw unigolion sydd angen cofrestru yn gwneud hynny cyn 30 Mehefin, gallant golli eu hawl i fyw a gweithio yn y DU a chael mynediad at wahanol wasanaethau cyhoeddus a chymorth. Â
Oes angen cyngor am ddim, annibynnol a chyfrinachol arnoch chi neu ddefnyddwyr eich gwasanaeth? Â
Mae ystod o i bawb yn cynnwys gan Cyngor ar Bopeth, Mind Cymru, Newfields Law, Settled a TGP Cymru.Â
Ymunwch â’n gweminarau mynediad agored am ragor o wybodaeth ynghylch y Cynllun EUSS a’r gefnogaeth sydd ar gael i geisio am statws cyn-sefydlog a statws sefydlog. Cliciwch ar y dolenni yn y gwahoddiad amgaeedig neu isod:
Dydd Mercher, 16eg Mehefin, 1:00 PM-2:00 PM
Dydd Iau, 24ain Mehefin, 1:00 PM-2:00 PM
E-bostiwch wgprojects@citizensadvice.org.uk os oes angen cymorth pellach arnoch.