Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adfywio Canol Trefi
Published: 13/05/2021
Yn y cyfarfod ddydd Mawrth, 18 Mai, bydd Cabinet Sir y Fflint yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran adfywio canol trefi a’r goblygiadau o ran adnoddau i ddatblygiad y rhaglen fel y cytunwyd.
Mae canol trefi llai ar draws y DU wedi bod yn wynebu amgylchiadau economaidd heriol ers blynyddoedd yn sgil y newid i ymddygiad cwsmeriaid. Mae’r pandemig Covid-19 wedi gwaethygu’r tueddiadau hyn, fodd bynnag, mae’n rhy gynnar ar hyn o bryd i ddeall yr effaith hirdymor.Ìý
Mae trefi bychain ar draws y DU yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys:
- Y newid i ymddygiad cwsmeriaid, sydd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig Covid-19 ac wedi arwain at ostyngiad i wariant mewn siopau ar y stryd fawr i raddau helaeth. Ni ddisgwylir i hyn ddychwelyd i’r lefelau cyn Covid, sy’n golygu y bydd gormod o siopau mewn trefi ac na fydd modd eu cynnal.ÌýÌý
- Mae canolfannau siopa llai yn ei chael hi’n anodd parhau i fod yn hyfyw a denu tenantiaid.ÌýÌý
- Mae nifer fechan o eiddo gwag hirdymor mewn trefi, a gallai hyn gael effaith niweidiol ar yr ardal leol.Ìý
Mae rhaglen flaengar y Cyngor yn ystyried canol trefi eto a sut y gellir eu siapio i’r dyfodol, gan gynnwys:Ìý
- lleihau nifer yr eiddo gwag hirdymor mewn canol trefi;
- dod o hyd i ddefnydd mwy cynaliadwy ar gyfer unedau masnachu a chynyddu mentrau cymunedol ar y Stryd Fawr;Ìý
- cynllunio i roi pwrpas newydd i ganolfannau siopa llai hyfyw;
- datblygu unedau cychwynnol ar gyfer mentrau manwerthu newydd mewn canol trefi; a
- chydlynu a chefnogi pob ymyrraeth â dull cyson i sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar effeithiau adfywiol buddsoddiadau ac adnoddau.
Dywedodd Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd ac Economi Cyngor Sir y Fflint:
“Er gwaethaf yr oedi yn sgil Covid-19, gwnaethpwyd cynnydd sylweddol gan gynnwys:Ìý
- Datblygu rhaglen uchelgeisiol o fuddsoddiad teithio llesol ar draws Bwcle a’r Wyddgrug;Ìý
- Sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn teithio llesol a seilwaith cludiant cyhoeddus yng Nglannau Dyfrdwy;
- Sefydlu strwythur a ffrydiau gwaith llywodraethu Uwchgynllun Shotton; ac
- Ymgyrchoedd hyrwyddo llwyddiannus i fusnesau yn y trefi a’r sectorau twristiaeth a lletygarwch."
Er mwyn parhau i ddarparu’r rhaglen hon yn effeithiol, bydd yn rhaid sicrhau bod rhagor o adnoddau ar gael. Mae’r tîm adfywio yn cynnwys dau unigolyn ar hyn o bryd, ac mae cynlluniau ar y gweill i recriwtio unigolyn arall. Mae’n rhaid cydnabod hefyd y bydd y dull arfaethedig yn gosod gofynion ar dimau eraill o fewn y Cyngor i ddarparu cyngor a chymorth arbenigol, er enghraifft gwasanaethau cyfreithiol ac eiddo.ÌýÌý
“Bydd yn rhaid sicrhau rhagor o gyllid.Ìý Ers yr adroddiad diwethaf ym mis Mawrth 2020, mae cyfleoedd newydd am fuddsoddiadau mewn trefi wedi codi ac mae’r Cyngor yn bwriadu elwa o’r cyfleoedd newydd hyn i gefnogi twf a datblygiad yng nghanol ein trefi.â€Ìý
Ìý