Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
Published: 14/05/2021
Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi adolygiad o Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP) panÌý fyddant yn cyfarfod ar 18 Mai.Ìý
Y rhwydwaith priffyrdd yw isadeiledd asedau mwyaf gwerthfawr y Cyngor, gydag asedau lonydd cerbydau a throedffyrdd werth dros £1 biliwn.Ìý Mae cyflwr diogel a defnyddiadwy'r rhwydwaith yn hanfodol i gynnal cysylltedd economaidd a chymdeithasol, yn Sir y Fflint ac yn y rhanbarth ehangach.ÌýÌý
Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i gynnal yr holl briffyrdd sydd wedi’u mabwysiadu, gan gynnwys strwythurau priffyrdd yn y Sir (nid yw’n cynnwys Cefnffyrdd) ac mae’r HAMP yn darparu’r egwyddorion ar gyfer rheoli’r rhwydwaith pwysig hwn sef:Ìý
• Ymagwedd systematig ar gyfer cynnal a chadw gydag ymagwedd cynnal a chadw hir dymor.Ìý
• Gwneud y mwyaf o’r buddiannau drwy gydbwyso'r galw sy’n gwrthdaro ar draws y gwahanol fathau o asedau.Ìý
• Dyrannu adnoddau yn seiliedig ar yr angen a aseswyd ac ymagwedd yn seiliedig ar risg i ddyrannu cyllid.Ìý
• Ystyried disgwyliadau'r cyhoedd yn benodol.Ìý
Ond, mae angen cydnabod y bydd cyflwr y rhwydwaith priffyrdd yn parhau i ddirywio’n naturiol bob blwyddyn a heb fuddsoddiad blynyddol digonol bydd cyflwr cyffredinol y rhwydwaith yn dirywio.Ìý
Dywedodd Steve Jones, Prif Swyddog Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint:Ìý
“Yn ddelfrydol hoffai’r awdurdod gyflawni parhad o’r lefel cyflwr presennol – mae hyn angen buddsoddiad cyfalaf o dros £3.2m y flwyddyn.Ìý Nid yw hyn yn ystyried cyflwr dirywiol yr asedau eraill fel troedffyrdd, strwythurau a rhwydwaith y goleuadau stryd.Ìý
“Felly mae’n rhaid dyrannu mwyafrif y cyllid sydd ar gael i gynnal a chadw’r lonydd cerbydau.Ìý ÌýMae’r Cyngor yn gweithredu trefn arolygu a gymeradwywyd ar gyfer yr holl asedau sy’n sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei ddyrannu i bob elfen yn ddigonol i sicrhau bod yr ased yn ddiogel ac yn addas i bwrpas ac felly'n sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n gofyniad statudol i gynnal y rhwydwaith.â€Ìý
Bydd gofyn i aelodau Cabinet hefyd gymeradwyo diweddariad i’r Polisi ar gyfer Arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon strwythurau’r priffyrdd.Ìý ÌýBydd y diweddariad yn darparu eglurder i gategoreiddiad asedau strwythur priffyrdd Sir y Fflint, ynghyd ag amlder a’r mathau o arolygon a ddyrennir ar gyfer pob categori asedau.Ìý Mae'r holl gynigion yn alinio gyda'r canllawiau cenedlaethol a'r cyngor cynnal a chadw.Ìý
Ìý