ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor i rieni ar ddysgu wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod clo

Published: 19/01/2021

ºÚÁϳԹÏÍø together.jpg

Atgoffir rhieni yn Sir y Fflint am ganllawiau argaeledd addysg.

Mae dysgu wyneb yn wyneb wedi’i ohirio gan Lywodraeth Cymru, ar wahân i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed, tan o leiaf 29 Ionawr, ond oni bai y bydd cyfraddau heintio yn gostwng yn sylweddol, gallai hyn barhau tan hanner tymor Chwefror.

Gyda chyfraddau trosglwyddiadau cynyddol o ganlyniad i’r amrywiolyn newydd o’r coronafeirws, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn datgan y dylai plant gweithwyr allweddol fynychu ysgol dim ond pan nad oes unrhyw ddewis diogel arall o gwbl a dim ond ar ddiwrnodau pan mae eu rhiant neu rieni yn gweithio.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg, “Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i ddisgyblion a rhieni gyda dysgu wyneb yn wyneb wedi’i ohirio i’r rhan fwyaf o ddisgyblion. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn pan mae ysgolion yn agored i blant gweithwyr allweddol, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod canllawiau Llywodraeth Cymru o ran pwy sy’n cael mynychu yn cael eu dilyn, er mwyn cadw pawb yn ddiogel.â€

“Dylai pob plentyn sy’n gallu cael gofal diogel gartref gael hynny, ond os yw gwaith rhieni/gofalwyr yn hanfodol i ymateb COVID-19, ac nad oes modd cadw’r plentyn/plant yn ddiogel gartref, yna rhoddir blaenoriaeth i ddarpariaeth addysg wyneb yn wyneb.

“I sicrhau bod ein cymunedau yn aros yn ddiogel a bod trosglwyddiadau’n cael eu lleihau, dim ond y disgyblion hynny sydd angen bod yn ysgol a ddylai fod yn bresennol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan ysgolion ddigon o gapasiti i’r rhai hynny sydd wir angen y llefydd.â€

Cyfeiriodd Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, at ganllawiau Llywodraeth Cymru sy’n datgan:

Nid yw un gweithiwr allweddol yn golygu o reidrwydd bod plant â’r hawl i le yn yr ysgol, ac os yw’n bosibl i blant gael gofal gartref, yna dylent gael hynny.

Nid yw anawsterau cydbwyso dysgu yn y cartref a gweithio gartref yn rheswm i gael y ddarpariaeth, oni bai bod yr unigolyn sy’n gweithio gartref yn weithiwr allweddol sydd ddim yn gallu gofalu am y plentyn yn ddiogel.

Os bydd y capasiti’n llawn, yn seiliedig ar asesiad risg yr ysgol, bydd y Cyngor yn cymryd y penderfyniad y gall rhai plant gael blaenoriaeth ar gyfer darpariaeth yn seiliedig ar alwedigaeth y rhieni.

Ìý