Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mae gennym ni gyd ran i’w chwarae yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws!
Published: 16/12/2020
Dros y misoedd diwethaf mae nifer o ysgolion yn Sir y Fflint wedi cael eu heffeithio gan ddisgyblion sydd wedi eu gorfodi i hunan-ynysu, oherwydd achosion positif yn eu ‘swigod’ ysgol.Ìý
Mae’r mwyafrif helaeth o deuluoedd wedi cydymffurfio gyda’r gofynion a nodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gyda’r Nadolig yn nesáu mae’n bwysig atgoffa ein hunain pam fod yn rhaid i ni barhau i lynu at y rheolau hyn.
Dros yr wythnosau diwethaf, bu cynnydd cyson yn y niferoedd o bobl sy’n cael prawf COVID-19 positif yn y sir. Mae cydweithwyr mewn ysgolion wedi sylwi ar rai patrymau sy’n achosi pryder, sy’n mynd yn erbyn y canllawiau gwarchod iechyd cyfredol. Rhai o’r prif bryderon yw:Ìý
- Diffyg cadw at reolau hunan-ynysu, ar ôl derbyn cadarnhad o achos positif neu wrth aros am ganlyniadau profion, mae rhai esiamplau a welwyd yn Sir y Fflint yn cynnwys:Ìý
- Oedolion sydd â symptomau, ac sydd yn gyrru eu plant i’r ysgol ac yn eu pigo i fyny o’r ysgol wrth aros am ganlyniadau eu profion.Ìý
- Oedolion sydd â chysylltiad â phrofion positif yn gofalu am blant, tra dylent fod yn hunan-ynysu.Ìý
- Yn enwedig o safbwynt disgyblion hyn, diffyg dealltwriaeth o swigen a sut mae hunan-ynysu yn gweithio.Ìý Er enghraifft, parhau gyda swyddi rhan amser, cymdeithasu gyda chysylltiadau swigen.
- Plant yn cymysgu y tu allan i amser ysgol – cysgu yn nhai ei gilydd, partïon pen-blwydd, chwarae gyda’i gilydd, cymysgu yn y parc, partïon teuluol.Ìý Dim ond yn yr ysgol mae swigod ysgol yn berthnasol – nid y tu allan. Hefyd:Ìý
- Rhannu gofal plant y tu allan i amser ysgol – gofalwyr heb eu cofrestru yn mynd â phlant yn ôl gyda’u plant nhw o’r ysgol, hefyd neiniau a theidiau, modrybedd ac ewythrod.Ìý
- Rhannu lifftiau (staff ysgol a rhieni yn mynd â phlant pobl eraill i’r ysgol) – mae hyn wedi digwydd mewn sawl ysgol.ÌýÌý
Gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn mynegi pryderon a’r potensial am gyfnodau pellach dan glo yn y dyfodol, rydym yn gofyn i bawb yn Sir y Fflint wneud eu rhan i gadw’r Sir yn ddiogel.ÌýÌý
Rydym yn annog pob teulu i fod yn wyliadwrus ac i gadw’n ddiogel dros wyliau’r Nadolig.Ìý ÌýMae’r cyngor gan Lywodraeth Cymru yn dal yn ei le a gellir ei weld yma: LLYW.CYMRU ac mae’n cynghori:Ìý
Cadwch Gymru’n ddiogel:Ìý
- arhoswch allan o dai pobl eraill, heblaw mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn
- ceisiwch gyfyngu faint o wahanol bobl yr ydych chi'n cyfarfod
- cadwch bellter cymdeithasol
- golchwch eich dwylo’n rheolaidd
- gweithiwch o gartref os gallwchÌý
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:
Ìý“Nid yw hwn yn gyfnod "arferol" ac mae coronafeirws yn bodoli ym mhob un o’n cymunedau.Ìý Rhaid i ni gyd weithio gyda’n gilydd i gadw Sir y Fflint yn ddiogel, gan osgoi cyfarfod pobl sydd ddim yn byw efo ni, gwisgo gorchudd wyneb, a dilyn y rheolau sydd yn eu lle i’n cadw ni gyd yn ddiogel.â€Ìý
Ìý