ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Published: 14/10/2020

Bydd gofyn i aelodau Cabinet Sir y Fflint nodi cynnwys cadarnhaol llythyr adborth yr ymweliad sicrwydd ac asesiad o berfformiad yr awdurdod yn eu cyfarfod ddydd Mawrth, 20 Hydref.Ìý

Pan nad yw unigolyn yn gallu rheoli eu harian mwyach, gall unigolyn arall ymgymryd â rôl dirprwy i gymryd cyfrifoldeb dros eu materion ariannol. Yn Sir y Fflint, pan nad oes unrhyw un ar gael neu’n gymwys i wneud hyn, bydd tîm derbynyddiaeth yr awdurdod lleol yn gallu ymgymryd â’r rôl hon.Ìý

Mae Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn defnyddio ymweliadau sicrwydd fel ffordd o oruchwylio dirprwyon awdurdod cyhoeddus. Fe wnaeth yr ymweliad sicrwydd eleni adolygu saith o gleientiaid dirprwyaeth y Cyngor.Ìý

Mesurir perfformiad y Cyngor yn erbyn pedair safon ddirprwyaeth, sef:

1. Diogelu cyllid ac asedau’r cleientiaid.Ìý

2. Cael cipolwg o’r cleient i wneud penderfyniadau er eu lles gorau,Ìý

3. Cynnal prosesau a threfniadau swyddfa mewnol effeithiol.Ìý

4. Meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i ymgymryd â dyletswyddau dirprwy.Ìý

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’n bleser rhoi gwybod fod yr ymwelwyr wedi penderfynu fod y Cyngor wedi bodloni bob un o’r safonau.Ìý

“Nodwyd hefyd bod y swyddogion dirprwyaeth yn gweithio’n agos gyda gweithwyr cymdeithasol i sicrhau fod yr unigolyn yn derbyn cefnogaeth i wneud eu penderfyniadau eu hunain lle bynnag y bo modd a bod penderfyniadau lles gorau’n cael eu gwneud ar yr holl wybodaeth sydd ar gael gan bartïon perthnasol.â€

Ìý