ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn Anrhydeddu Diwrnod y Llynges Fasnachol

Published: 03/09/2020

Cododd Cyngor Sir y Fflint y Lluman Coch heddiw, 3 Medi, i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol.Ìý Mae’r Cyngor yn falch o ddangos cefnogaeth i’r morwyr y mae'r Deyrnas Unedig yn dibynnu arnynt.

Ers 2000, mae Diwrnod y Llynges Fasnachol wedi anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a fu’n gwarchod ein hynys yn ystod y ddau Ryfel Byd. Rydym hefyd yn dathlu ein dibyniaeth barhaus ar forwyr masnachol heddiw sy’n gyfrifol am y rhan helaeth o fewnforion y Deyrnas Unedig, gan gynnwys llawer o’r bwyd rydym yn ei fwyta, y rhan fwyaf o’r tanwydd rydym yn ei losgi, a bron yr holl gynnyrch a’r nwyddau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.Ìý

Meddai’r Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir y Fflint:

“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog.Ìý Fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth ein morwyr heddiw a morwyr y gorffennol, rydym yn falch o godi’r Lluman Coch i gefnogi Diwrnod y Llynges Fasnachol."

ÌýMeddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Marion Bateman:Ìý

"Rydym wedi bod yn nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol ers sawl blwyddyn a chodi’r Lluman Coch yw ein cydnabyddiaeth flynyddol o’n cefnogaeth iddynt.ÌýMae gan y Llynges Fasnachol ran bwysig yn ein hanes fel cenedl ac mae hi’n dal i gludo cyflenwadau hanfodol yn ddiogel at ein glannau.â€Ìý

ÌýMND 2020.jpg

Ìý