Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ail agor eich busnes yn ddiogel
Published: 01/07/2020
Wrth i gyfÌýyngiadau ar fasnachu gael eu llacio, rhaid i weithredwyr busnes asesu a rheoli’r risg o COVID-19 er mwyn cyflawni eu cyfrifoldebau i’w cadw eu hunain, eu staff, a’u cwsmeriaid yn ddiogel.Ìý
Mae hyn yn golygu gwneud popeth sy’n rhesymol ymarferol er mwyn nodi a lleihau unrhyw risgiau posib i staff a chwsmeriaid yn eich eiddo.Ìý
Byddem yn annog pob busnes i arddangos i’w staff a’u cwsmeriaid eu bod wedi asesu eu risgiau yn gywir a chymryd y mesurau priodol i’w lleihau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i fanwerthwyr sydd ar gael yma:
Unwaith y byddwch wedi cwblhau’r gwaith i sicrhau bod eich eiddo yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru gallwch roi gwybod i bobl, drwy arddangos hysbysiad – gellir lawrlwytho’r hysbysiad o’n gwefan: /stay-covid-19-secure.
Ìý
Mae’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf i fusnesau hefyd ar gael ar wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: .Ìý Os oes angen mwy o gymorth arnoch, rhif Llinell Gyswllt yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw 0300 790 6787
Mae mwy o wybodaeth a dolenni defnyddiol ar ein gwefan ar gyfer busnesau lleol sy’n cynllunio ar gyfer ailagor.Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý