Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyflenwadau bwyd Well-Fed – Y stori hyd yn hyn
Published: 10/06/2020
Bob wythnos, mae Well-Fed,Ìýmewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, wedi bod yn danfon prydau, bagiau i’r popty a bocsys diogelwch i gannoedd o aelwydydd diamddiffyn yn Sir y Fflint am ddim – gan sicrhau bod trigolion sy’n ei chael yn anodd, trigolion sy’n hunan-ynysu a bydd preswylwyr mewn angen yn ein cynlluniau cysgodol a'n tai â chymorthÌýyn derbyn bwyd ffres o ansawdd uchel.Ìý
Rydym bellach dros hanner ffordd i ddarparu cymorth bwyd brys mewn ymateb i’r sefyllfa Covid-19.Ìý
Dros y deg wythnos diwethaf, rydym wedi gallu cefnogi ein tenantiaid mwyaf diamddiffyn sy’n gwarchod eu hunain, gyda phrydau iach llawn maeth er mwyn eu cynorthwyo yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Rydym hefyd yn darparu cyflenwadau ffres drwy focsys gwarchod Well-Fed. Mae’r rhain yn cynnwys prydau wedi’u paratoi yn ffres, yn ogystal â chyflenwadau fel bara, llaeth, wyau a chynnyrch ffres eraill, ac unrhyw roddion yr ydym wedi derbyn i gadw’r trigolion yn iach. Mae ein cyflenwadau yn lleihau ymweliadau â’r archfarchnadoedd ac yn aml, ni yw’r unig gyflenwad bwyd mae rhai o’n trigolion, sy’n gwarchod eu hunain, yn ei dderbyn.ÌýÌý
Mae'r ymdrechion bwyd brys ar gyfer wythnosau 1-6 fel a ganlyn:

Ìý
Wythnos 1
12 Gyrrwr
2000 o brydauÌý
432 o gyflenwadauÌý
100 o focsys gwarchod Well-Fed
Ìý
Ìý
Wythnos 2Ìý
12 GyrrwrÌý
2400 o brydau a 200 o fagiau poptyÌý
447 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunainÌý
206 o focsys gwarchod Well-FedÌý
Ìý
Wythnos 3Ìý
13 Gyrrwr
2400 o brydau a 200 o fagiau popty
494 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain
210 o focsys gwarchod Well-FedÌýÌý
Wythnos 4Ìý
13 Gyrrwr
2400 o brydau a 200 o fagiau popty
451 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain
228 o focsys gwarchod Llywodraeth Cymru - dechrau derbyn a danfon bocsys Llywodraeth Cymru a danfon prydau a chynnyrch ffres Well-Fed, llaeth, bara, menyn, ham, caws, wyau, ffa pob a grawnfwyd.Ìý
Ìý

Ìý
Wythnos 5Ìý
20 GyrrwrÌý
2600 o brydau a 100 o fagiau poptyÌý
522 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain
268 o Focsys gwarchod Llywodraeth CymruÌý
Ìý
Ìý
Wythnos 6Ìý
25 GyrrwrÌý
2500 o brydau a 100 o fagiau poptyÌý
530 o gyflenwadau i bobl sengl, cyplau, teuluoedd a thrigolion sy’n gwarchod eu hunain
179 o Focsys gwarchod Llywodraeth CymruÌý
Mae’r cymorth hwn yn cael effaith mawr, yn cynorthwyo trigolion sy’n gwarchod eu hunain a’n pobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn.Ìý
Os ydych chi wedi derbyn llythyr i warchod eich hunain ac angen cymorth gyda bwyd, neu yn ei chael yn anodd prynu bwyd ar hyn o bryd, cysylltwch â 01352 752121 am fwy o fanylion.Ìý
Ìý