Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Arhoswch adref
Published: 22/05/2020
Dros benwythnos Gwyl y Banc mae’n hanfodol bod pobl yn Sir y Fflint a mannau eraill yn dilyn rheoliadau Llywodraeth Cymru sydd ddim yn caniatáu i bobl yrru i leoedd er mwyn ymarfer, oni bai bod ganddynt faterion symudedd.Ìý
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn ystyried eraill ac yn dilyn y rheolau.Ìý ÌýFodd bynnag, gyda phenwythnos Gwyl y Banc yn nesáu, mae yna risg y bydd rhai pobl yn ceisio ymgynnull mewn grwpiau neu ymweld â mannau cyhoeddus yn erbyn y rheoliadau.ÌýÌý
Mae’r maes parcio ym Mharc Wepre yng Nghei Connah yn parhau dan glo ac mae’r ardal chwarae, canolfan ymwelwyr a’r toiledau yn dal wedi cau.Ìý ÌýGall pobl sy’n byw’n lleol ger y parc ymarfer yno a gall genweirwyr lleol hefyd gael mynediad i bwll pysgod ‘The Rosie’.Ìý Mae’n rhaid dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol yn ofalus bob amser.Ìý Ìý
Mae yna le parcio cyfreithiol cyfyngedig mewn cyrchfannau poblogaidd fel Talacre a bydd ein Swyddogion Gorfodi yn patrolio’r ardal hon ac ardaloedd eraill yn rheolaidd yn ystod penwythnos Gwyl y Banc.Ìý
Mae’r meysydd parcio canlynol yn parhau ynghau:Ìý
• Dock Road, Cei ConnahÌý
• Castell y Fflint
• Gorsaf y Bad Achub, y Fflint
• Pont Droed Saltney Ferry
• Dock Road, Maes GlasÌýÌý
• Golygfan GwaenysgorÌý
• Gamfa Wyn, Talacre
• Station Road, Talacre
Mae Maes Parcio’r Goleudy, Talacre hefyd wedi’i gau gan y perchennog.Ìý
Mae ardaloedd ble rydym wedi cael adroddiadau blaenorol bod pobl yn ymgynnull yn parhau i gael eu monitro gan Heddlu Gogledd Cymru.Ìý
Dylech gydweithredu a dilyn y rheolau a’r rheoliadau.ÌýÌý
Ìý