Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cymorth i fusnesau
Published: 22/04/2020
Mae busnesau bach yn chwarae rhan hollbwysig yn economi’r sir ac mae llawer ohonyn nhw'n chwilio am gymorth ariannol ac arweiniad yn ystod y cyfnod ansicr hwn.Ìý
Mae ar y Cyngor eisiau gwneud yn siwr bod busnesau bach Sir y Fflint, yn enwedig y rheiny nad ydyn nhw’n talu trethi busnes, yn ymwybodol o gymorth grant Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.
Mae manylion y grant hwn ar gael ar wefan Busnes Cymru, ynghyd â gwybodaeth am fathau eraill o gymorth sydd ar gael: .
I dderbyn cefnogaeth yn lleol gall fusnesau fynd i Ìýneu gysylltu â thîm Datblygu Busnes y Cyngor ar Business.dev@flintshire/gov.uk.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio offeryn canfod cymorth sy’n helpu busnesau a phobl hunangyflogedig ganfod y cymorth ariannol sydd ar gael iddyn nhw yn ystod yr argyfwng presennol. Mae’r offeryn hwn ar gael yn .
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý