Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosesau Democrataidd
Published: 17/04/2020
Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýÌý
Yn ystod y sefyllfa argyfyngus bresennol, mae’r Cyngor wedi addasu ei brosesau democrataidd er mwyn galluogi penderfyniadau brys i gael eu gwneud. Rydym wedi cyflwyno proses gwneud penderfyniadau gan ‘Aelod Cabinet Unigol’ fel bod penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud mewn modd trylwyr a gydag atebolrwydd dyledus.Ìý
Tri diwrnod clir cyn i Aelod Cabinet wneud penderfyniad, bydd y Cyngor yn cyhoeddi agenda ar wefan y Cyngor (www.siryfflint.gov.uk) gydag adroddiad yn dadansoddi’r materion a gwneud argymhelliad.Ìý Yna gall Cynghorwyr a’r cyhoedd anfon unrhyw sylwadau dros e-bost at y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, cyn y dyddiad/amser penodedig ar gyfer gwneud y penderfyniad, a bydd y rheolwr yn tynnu sylw’r Aelod Cabinet atynt wedyn cyn i’r penderfyniad gael ei wneud.
Yn ystod y cyfnod lle na all y Pwyllgor Cynllunio gyfarfod, mae proses wedi’i rhoi ar waith a fydd yn caniatáu i geisiadau cynllunio brys gael eu penderfynu tra nad oes modd i gyfarfodydd arferol gael eu cynnal.Ìý Caiff ceisiadau o’r fath eu penderfynu gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), ar ôl ystyried barn yr ymgeisydd, aelodau’r cyhoedd, ymgyngoreion, yr Aelod Lleol ac aelodau’r Pwyllgor Cynllunio.Ìý Caiff unrhyw adroddiadau o ran ceisiadau cynllunio brys i gael eu penderfynu, eu llwytho ar wefan y Cyngor, a hefyd unrhyw benderfyniadau a wneir.Ìý
Ìý
Ìý