Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Datganiad Cyngor Sir y Fflint: Coronafeirws (Covid-19) – Gwasanaethau’r Cyngor
Published: 24/03/2020
Neithiwr, cyhoeddodd Llywodraethau’r DU a Chymru fesurau llym newydd ar gyfer teithio hanfodol, cadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad cyhoeddus.Ìý
Bydd gwasanaethau a chyfleusterau’r Cyngor a fyddai’n annog pobl i deithio’n ddiangen petaent yn parhau ar agor, yn cau ar unwaith.Ìý
Mae Canolfannau Gwastraff y Cartref ac Ailgylchu yn un o’r gwasanaethau hynny. Mae pob canolfan ar gau nes y rhoddir rhybudd pellach.Ìý
Nid yw teithio i’r safleoedd yma i gael gwared ar wastraff yn rheswm dilys dros adael eich cartrefi a theithio.Ìý
Bydd gweithwyr yn y safleoedd hyn yn cael eu hadleoli i gefnogi gwasanaethau casglu gwastraff eraill pwysig dros y cyfnod yma.Ìý
Cynghorir preswylwyr i storio unrhyw wastraff swmpus, gwastraff DIY, eitemau trydanol a gwastraff yr ardd gartref ar eich eiddo hyd y gellir rhagweld.Ìý Peidiwch â rhoi’r gwastraff yma allan i’w gasglu ar eich diwrnod casglu biniau ymyl palmant arferol, gan na fyddwn yn ei gasglu.ÌýÌý
Os ydych chi’n darganfod gwastraff peryglus ar eich eiddo wrth i chi ymgymryd â phrosiect DIY neu adeiladu, megis asbestos, cysylltwch â’r Cyngor ar unwaith i gael cyngor.Ìý
Bydd y Cyngor yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd cenedlaethol ar unwaith. Efallai y bydd rhagor o gyfarwyddiadau i ddilyn. Byddai peidio â dilyn y rhain yn mynd yn groes i ganllawiau’r Llywodraeth. Bydd unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a fydd yn cael eu heffeithio gan gyhoeddiad o’r fath yn cael eu cau neu eu tynnu nôl ar unwaith.Ìý
Mae pob gwasanaeth hanfodol y Cyngor yn dal i gael eu cynnal fel arfer oni bai eu bod ar y rhestr sy’n nodi eu bod ar gau neu wedi’u cyfyngu ar wefan Cyngor Sir y Fflint: . ÌýSerch hynny, mae’r sefyllfa’n newid yn gyflym iawn.Ìý
Rydym yn apelio am eich cydweithrediad a’ch amynedd.Ìý
Ìý