ºÚÁϳԹÏÍø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Newidiadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff

Published: 21/02/2020

O 2 Mawrth 2020, bydd casgliadau gwastraff y cartref yn Sir y Fflint yn newid i rai trigolion yn dilyn adolygiad o’r amserlenni casgliadau.

Bydd y newidiadau hyn ond yn effeithio nifer fechan o drigolion, a bydd y trigolion hynny a effeithir yn derbyn calendr casgliadau newydd a llythyr yn egluro’r newidiadau.Ìý Ni fydd unrhyw eiddo arall yn cael eu heffeithio gan y newid.

Ìý

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad;

Ìý

“Yn dilyn ymgynghoriad ar wasanaethau ailgylchu gwastraff Sir y Fflint, cytunwyd y dylid cadw at y casgliadau bin du bob pythefnos, ond bydd yn rhaid i ni newid y diwrnod casglu ar gyfer rhai trigolion er mwyn darparu ar gyfer datblygiadau tai i’r dyfodol a’r safle Ynni o Wastraff newydd ym Mharc Adfer, Glannau Dyfrdwy. Ìý

Ìý

Ìý“Adeiladwyd y Parc Adfer ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru, bydd y safle’n defnyddio’r gwastraff a gesglir i gynhyrchu digon o drydan i gyflenwi pwer i 30,000 o gartrefi a busnesau. Ìý

"Sicrhewch eich bod yn cadw eich calendr yn ddiogel i’ch atgoffa chi o’r dyddiadau.â€

Ìý

Ìý