Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn chwifio’r faner
Published: 06/02/2020
Mae Cyngor Sir y Fflint yn codi'r faner enfys y tu allan i Neuadd y Sir unwaith eto eleni i gefnogi mis hanes pobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn ystod mis Chwefror.Ìý
Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu mwy am hanes a chyflawniadau pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a'r mudiad hawliau pobl hoyw a hawliau sifil.Ìý
Mae hyn hefyd yn adeg i gofio am y camwahaniaethu y mae llawer wedi’i wynebu a’r siwrnai a wnaed tuag at gydraddoldeb LGBT.Ìý
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol a Phencampwr Diogelu’r Cyngor:
“Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi mis hanes LGBT unwaith eto. Mae chwifio'r faner drwy gydol mis Chwefror yn anfon neges glir ein bod wedi ymrwymo i gydraddoldeb i bawb, o fewn y Cyngor a'n cymuned ehangach�.
Y thema eleni yw Barddoniaeth, Rhyddiaith a Dramâu.Ìý
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r wefan .

Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý